Modiwl LCM-4024:
Creu Portffolio Cyfieithu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Helena Miguelez-Carballeira
Amcanion cyffredinol
- Cyflwyno myfyrwyr i dasgau cyfieithu concrid lle caiff y wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysol a gafwyd hyd yma ac yn ystod y modiwl hwn, eu rhoi ar waith.
- Creu beirniadaethau a thrafodaeth gwybodus a rhesymedig ar brosesau a chynhyrchion cyfieithu.
- Creu cynnyrch wedi'i gyfieithu sy'n ddealladwy, drwy ddewisiadau gwybodus, gan weithio o'r iaith maent yn arbenigo ynddi i'r Saesneg/Gymraeg a vice versa.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys chwe gweithdy cyfieithu wedi'u llunio i fyfyrwyr gael safbwynt mor eang ag sy'n bosibl ar gyfieithu yn yr iaith maent yn arbenigo ynddi. Yn fwy penodol, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod materion mewn cyfieithu gyda chyfeiriad penodol at eu cyfieithiadau eu hunain, ac mae'n eu galluogi i gynhyrchu cyfieithiadau dan amodau sy'n annog a hwyluso adfyfyrio ar broses a chynnyrch cyfieithu. Bydd y trafodaethau mewn gweithdai yn sail i ymarfer y myfyrwyr wrth gydosod portffolio cyfieithu unigol. Mae'r ieithoedd ar gael yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.
Language-specific course materials are made available to the students through translation exercise dossiers that each language tutor prepares in advance.
Generic resources: Baker, Mona (2013) In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd ed. London: Routledge. Campbell, Stuart (1998) Translation into the second language, London: Longman. Hatim, B and I. Mason (1990) Discourse and the Translator, London: Longman. Fawcett, Peter (1997) Translation and language: linguistic theories explained, Manchester: St Jerome. Grosman, M (eds) (2000) Translation into non-mother tongues: in professional practice and training, Tübingen: Stauffenburg.
Meini Prawf
trothwy
C- - C+: Crynhoi ysgolheictod perthnasol mewn maes; gallu adnabod y gwrthddadleuon amlycaf; dogfennu'r rhan fwyaf o ffynonellau'n gywir; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n briodol ac eto sydd wedi'u cyfiawnhau'n llac neu¿n ymddangos yn fympwyol.
da
B- - B+: Gallu defnyddio syniadau gwreiddiol, ond ddim yn edrych ar neu'n cydnabod eu harwyddocâd llawn bob amser; dangos dealltwriaeth feirniadol o'r ysgolheictod perthnasol yn y maes; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n cyfateb i faterion damcaniaethol/beirniadol perthnasol.
ardderchog
A- - A*: Cyflwynir y gwaith i safon a fyddai'n dderbyniol i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn arbenigol priodol; mae'n dangos dealltwriaeth feirniadol o ysgolheictod perthnasol, ac yn rhoi syniadau gwreiddiol yng nghyd-destun yr ysgolheictod hwnnw. Mae'n rhoi dewisiadau cyfieithu gwreiddiol a medrus sy'n rhoi sylw i faterion damcaniaethol / beirniadol.
Canlyniad dysgu
-
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol o safon uchel mewn cyfieithu.
-
Bydd myfyrwyr yn fwy ymwybodol o'r broses gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n sail i gyfieithu ac yn gallu trafod ei benderfyniadau ei hun gyda thiwtoriaid a chyfoedion.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi'r berthynas rhwng theorïau unigol a'r testunau maent yn eu cyfieithu.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Portfolio Cyfieithu | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
6 tiwtorial dwy awr, bob pythefnos. |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- T9AD: MA Translation Studies year 1 (MA/TRANS)