Modiwl PCC-1002:
Cyflwyniad i Ymchwil (20 credyd)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Human and Behavioural Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Awel Vaughan-Evans
Amcanion cyffredinol
Oes yna berthynas rhwng ymddygiad treisgar a statws cymdeithasol?
Ydi canu mewn côr wir yn dylanwadu ar ein lles ni?
Ydi pobl yn fwy tebygol o gredu gwybodaeth sydd wedi ei rannu ar Facebook na gwybodaeth sydd ar y newyddion?
Mae’r tri yma’n enghreifftiau o gwestiynau ymchwil, ac mae’n bosib eu hateb gan ddefnyddio dulliau ymchwil a phrofion ystadegol. Pwrpas y modiwl yma yw cyflwyno’r dulliau ymchwil yma i chi fel eich bod yn deall sut i ddylunio ymchwil dibynadwy eich hunain. Tuag at ddiwedd y modiwl, byddwn yn trafod mathau o brofion ystadegol er mwyn darganfod os yw canlyniadau arbrofion gwahanol yn arwyddocaol.
Felly, prif nodau’r modiwl yma yw:
1) Cyflwyno dulliau ymchwil mewn ffordd ddealladwy a datblygu eich dealltwriaeth o elfennau sylfaenol ymchwil
2) Datblygu eich dealltwriaeth o ystadegau
3) Datblygu eich gallu i ddadansoddi data gan ddefnyddio SPSS
4) Datblygu eich gallu i drafod dulliau ymchwil ac ystadegau yn hyderus yn Gymraeg a Saesneg
Cynnwys cwrs
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
Bob wythnos, mi fydd myfyrwyr yn mynychu darlith (2 awr o hyd) a gweithdy (1 awr o hyd). Yn y ddarlith, byddwch yn dysgu ffeithiau, theorïau, a rhesymeg dulliau ymchwil. Mi fydd y gweithdai wythnosol yn rhoi cyfle i chi drafod y wybodaeth yn fwy manwl, ac i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Bydd rhai o'r gweithgareddau yn cynnwys ystyried materion moesegol, dyfeisio astudiaethau ymchwil, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio offer electronig, llaw gyfrifiadau, a dysgu sut i gyfathrebu canlyniadau'r ymchwil mewn adroddiadau ysgrifenedig.
Dylai pob myfyriwr gwblhau 200 awr o waith ar gyfer y modiwl hwn ar draws y semester (gan gynnwys dosbarthiadau rheolaidd, ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau).
Meini Prawf
da
B- i B+
Adolygiad da o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n dda, gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn dda.
Dealltwriaeth dda o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn weddol glir.
Hyfedr iawn wrth ddefnyddio SPSS.
ardderchog
A- i A+
Adolygiad gwych o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wych, heb unrhyw wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn wych.
Dealltwriaeth gadarn o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn glir.
Hyfedredd gadarn wrth ddefnyddio SPSS.
C- i C+
C- i C+
Adolygiad boddhaol o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu eithaf clir. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n foddhaol, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn foddhaol.
Dealltwriaeth foddhaol o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys ychydig o allu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol.
Dengys ychydig o hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
trothwy
D- i D+
Adolygiad gwael o’r llenyddiaeth, gyda llawer o wallau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wael, gyda thipyn o wallau ffeithiol. Ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn.
Dealltwriaeth wael o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dealltwriaeth wael o’r cynlluniau arbrofol gwahanol.
Ni ddengys unrhyw hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau a dulliau ymchwil gwahanol, a deall sut y cânt eu defnyddio o fewn meysydd gwahanol.
-
Cynnal adolygiad o lenyddiaeth perthnasol ac ysgrifennu cynnig ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA.
-
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o dechnegau methodolegol fel mesuriadau ac arsylwadau.
-
Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm drwy gyfrannu at astudiaethau ymchwil fel cyfranogwr.
-
Gallu defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS yn hyderus: gallu mewnbynnu data yn gywir, rhedeg y dadansoddiad ystadegol priodol, a dehongli'r allbwn.
-
Dangos dealltwriaeth gadarn o'r ystyriaethau moesegol sydd ynghlwm ag ymchwil.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cynnig ymchwil | 50.00 | ||
Gwaith cartref | 20.00 | ||
SONA 1 | 2.50 | ||
SONA 2 | 2.50 | ||
Ystyriaethau Moesegol | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor. |
11 |
Workshop | Bydd gweithdai wythnosol yn cael eu cynnal i gyfnerthu eich dealltwriaeth o'r hyn a drafodwyd yn y ddarlith. . |
22 |
Lecture | Bydd darlith wythnosol (1 awr o hyd) yn cyflwyno gwybodaeth i chi am ddulliau ymchwil ac ystadegau. |
11 |
Private study | Mewn modiwl 20 credyd, disgwylir i chi weithio am 200 awr. Disgwylir i chi wario 158 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
156 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Carry out empirical studies by operationalizing research questions, generating hypotheses, collecting data using a variety of methods, analysing data using quantitative and/or qualitative methods, and present and evaluate research findings (under appropriate supervision).
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Use a range of statistical methods with confidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Use a variety of psychological tools, including specialist software, laboratory equipment and psychometric instruments.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
The cost of the core text is £26.99. The web code WEBXSTU98 will give anyone purchasing books through this website a 20% discount: https://global.oup.com/academic/?cc=gb&lang=en
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1002.htmlRhestr ddarllen
Starting Out in Methods and Statistics for Psychology: A Hands-on Guide to Doing Research. Victoria Bourne. ISBN: 9780198753339
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 1 (BSC/PHS)
- C800: BSC Psychology year 1 (BSC/PS)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 1 (BSC/PSYFP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 1 (BSC/PSYN)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 1 (BSC/SEXP)