Modiwl PCC-3009:
Niwroestheteg:
Niwroestheteg: Cyfuno'r gwyddorau a'r celfyddydau 2024-25
PCC-3009
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Awel Vaughan-Evans
Overview
- Dulliau casglu data megis EEG, fMRI, a thracio llygaid
- Ystyriaethau cynllunio ymchwil
- Tystiolaeth empirig sy'n ymchwilio i sut gaiff celf, cerddoriaeth, dawns, a llenyddiaeth eu canfod a'u prosesu
- Tystiolaeth empirig sy'n ymchwilio i fanteision ac anfanteision therapïau sy'n cymhwyso elfennau o gelf, cerddoriaeth, dawns, a llenyddiaeth
Learning Outcomes
- Cyfleu pwyntiau allweddol papur ymchwil yn effeithiol.
- Cynnig cwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol
- Deall rhai o fanteision a heriau ymchwil trawsddisgyblaethol.
- Gwahaniaethu rhwng, a gwerthfawrogi, gwerth arwyddocâd clinigol ac ystadegol
- Gwerthuso'n feirniadol ymchwil gyfredol ym maes niwroestheteg.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu dadansoddiad beirniadol o bapur ymchwil a osodwyd. Ni ddylai'r papur hwn fod wedi'i drafod yn y dosbarth, ond dylai myfyrwyr ddefnyddio'r pwyntiau a drafodwyd yn y seminarau i hwyluso eu hysgrifennu.
Weighting
30%
Due date
11/11/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cyflwyniad llafar o bapur ymchwil a osodwyd o flaen grŵp o fyfyrwyr a threfnydd y modiwl. Hyd: Cyflwyniadau 8 munud gyda 2 funud o gwestiynau
Weighting
30%
Due date
09/12/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Bob wythnos, bydd gofyn i fyfyrwyr ddarllen papurau ymchwil a osodwyd cyn mynychu'r seminar. Ar ôl darllen y papurau, bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau taflen fer (gan nodi sylwadau penodol a/neu gwestiynau am y papurau ymchwil). Rhaid cyflwyno'r taflenni yma i drefnydd y modiwl yn ystod y seminarau wythnosol. Caiff yr asesiad hwn ei raddio ar sail eithriad. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cwblhau'r gwaith hwn, ni fydd eich gradd yn cael ei heffeithio. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith hwn, bydd eich gradd yn gostwng.
Weighting
10%
Due date
02/12/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu cynnigiad ymchwil yn ymwneud ag un o'r pedwar prif bwnc dan sylw. Rhaid i'r cynnigiad dynnu ar y llenyddiaeth bresennol, a chynnwys goblygiadau damcaniaethol a/neu ymarferol cadarn.
Weighting
30%
Due date
06/01/2025