Modiwl SCW-4109:
Y Broses ymchwil
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Medical and Health Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Ms Rhian Lloyd
Amcanion cyffredinol
Mae y modiwl yn rhoi hyfforddiant ar lefel ôl-radd mewn ymchwil empirig a llenyddiaeth yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol. Mae y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu traethawd hir gwaith cymdeithasol yn ystod yr ail flwyddyn. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch dewis methodoleg ymchwil priodol ar gyfer eu hymchwil gwaith cymdeithasol eu hunain ym mlwyddyn dau. Bydd cyfleoedd i nodi pynciau ymchwil o gyfnod cynnar. Mae y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall sut y gall y defnydd o wybodaeth am ymchwil a thystiolaeth lywio ymarfer proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus yn ystod eu gyrfa mewn gwaith cymdeithasol. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau dylunio a methodoleg ymchwil. Bydd yn ceisio nodi ac archwilio ffyrdd o gasglu a defnyddio ystod o ffynonellau data. Bydd yr archwiliad o waith ymchwil a gwerthuso yn cael ei wneud gyda sylw penodol i faterion moeseg, gwerthoedd, unigolion sydd yn defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
Cynnwys cwrs
- Pam trafferthu gydag ymchwil - archwilio swyddogaeth ymchwil ar gyfer polisi gwaith cymdeithasol a datblygu ymarfer.
- Effaith ymchwil ar ddatblygiad ymarfer ar sail tystiolaeth mewn gwaith cymdeithasol.
- Datblygu cynnig ymchwil - egwyddorion allweddol cynllunio ymchwil.
- Moeseg mewn gwaith ymchwil.
- Cyfweliadau fel dull ymchwil a dulliau cyfranogol mewn ymchwil gwaith cymdeithasol e.e. grwpiau ffocws.
- Cynnal arsylwadau a dadansoddi data arsylwadol.
- Dadansoddi a gwerthuso effeithiau astudiaethau achos mewn ymchwil gwaith cymdeithasol.
- Dewis eich pwnc ymchwil; chwiliad llenyddol a creu cynnig ymchwil
Meini Prawf
da
- Yn ateb y mwyafrif o agweddau’r dasg / cwestiwn / aseiniad yn cael ei ateb, dim deunydd amherthnasol
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gref o’r rhan fwyaf o’r maes gydag ond ychydig o fylchau
- Annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun i’w weld
- Cynnwys elfennau o wreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau
- Integreiddiad o ddeunydd amrywiol a pherthnasol, gyda thystiolaeth o ddarllen ac astudio y tu hwnt i’r wybodaeth a gafwyd o’r darlithoedd
- Yn cynnwys dadleuon / honiadau sydd wedi’u cynnal a’u cyflwyno yn rhesymegol gyda’r cysylltiad rhwng rhannau dilynol sy’n hawdd i’w dilyn
- Gwerthusiad beirniadol a rhesymegol o’r deunydd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru
- Integreiddiad cymwys o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith
- Lefel dda o gymhwyso syniadau i sefyllfaoedd ymarfer (pan fo’r gofyn)
- Yn gwneud rhai cysylltiadau perthnasol â modiwlau eraill o fewn y rhaglen
- Wedi ei gynllunio a’i strwythuro’n dda ac yn canolbwyntio ar y dasg
- Dim llawer o wallau ffeithiol
- Cyflwynwyd i safon broffesiynol dda gyda’r rhan fwyaf wedi’i gyfleu’n gywir
- Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi sydd gan fwyaf yn gywir
Student will have clearly defined a research problem and demonstrated good awareness of the theoretical context as well as systematic acquaintance with the appropriate literature. Will have explained and justified the choices made in designing their study. The presentation, including citation and referencing, will be clear and consistent.
trothwy
C- C+
1. Yn ateb yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y dasg / cwestiwn, ond hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd amherthnasol
2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r maes / prif egwyddorion, ond rhai bylchau
3. Rhywfaint o annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun i’w weld
4. Disgrifiadol / cyfyng o ran gwreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu cyfyng i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau
5. Yr ateb wedi’i seilio yn helaeth ar y deunydd a gafwyd o’r darlithoedd gyda thystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
6. Tueddol o gyflwyno dadleuon / honiadau heb dystiolaeth gefnogol neu resymeg
7. Rhywfaint i dystiolaeth o’r gallu i adlewyrchu’n feirniadol
8. Rhywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru
9. Lefel dderbyniol / anghyson o integreiddiad o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith
10. Tueddiad i ddod at ymarfer mewn modd disgrifiadol yn hytrach na chymhwyso syniadau yn feirniadol (pan fo’r gofyn)
11. Cysylltiad cyfyngedig gyda modiwlau eraill o fewn y rhaglen
12. Strwythur ymhlyg: yn aml yn dibynnu ar y darllenydd i ffurfio cysylltiadau rhwng gwahanol rannau
13. Rhywfaint o wallau ffeithiol
14. Cyflwynwyd i safon broffesiynol dderbyniol ond yn cynnwys rhai camgymeriadau cyfathrebu
15. Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi priodol i lefel dderbyniol
Student will have defined a research problem and demonstrated awareness of the theoretical context as well as knowledge of appropriate literature. Will have explained the choices made in designing their study. The presentation, including citation and referencing, will be clear and free from significant errors.
ardderchog
- Pob agwedd o’r dasg / cwestiwn yn cael ei ateb, heb ddeunydd amherthnasol
- Tystiolaeth gref o wybodaeth fanwl a dealltwriaeth drwyadl o'r maes
- Annibyniaeth meddwl y myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg drwyddo draw
- Cynnwys elfennau arwyddocaol o wreiddioldeb wrth ddehongli a dadansoddi, ac yn dangos gallu clir i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau
- Integreiddiad trylwyr a mewnwelediad llawn deallusrwydd o ddeunydd sydd o amrywiaeth eang a pherthnasol, gan fynd y tu hwnt i’r wybodaeth a gafwyd o’r darlithoedd
- Yn cynnwys dadleuon sydd wedi’u cynnal a’u cyflwyno yn rhesymegol gyda phob cam yn dilyn ac yn cael ei gysylltu ‘n glir i’r dasg / cwestiwn a osodwyd
- Gwerthusiad beirniadol a rhesymegol o’r deunydd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o brif ddadleuon a chysyniadau allweddol o fewn gwaith cymdeithasol, yn cynnwys y cyd-destun polisi, deddfwriaethol ac economaidd o weithio yng Nghymru
- Integreiddiad clir a chyson o sylfaen werthoedd gwaith cymdeithasol, gwerthoedd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol sy'n treiddio drwy’r gwaith
- Gallu cyson i gymhwyso syniadau i sefyllfaoedd ymarfer (pan fo’r gofyn)
- Yn gwneud cysylltiadau perthnasol â modiwlau eraill o fewn y rhaglen
- Wedi ei gynllunio a’i strwythuro’n effeithiol heb wyro oddiar y dasg
- Dim gwallau ffeithiol
- Cyflwynwyd i safon broffesiynol uchel iawn ac wedi’i gyfleu’n gywir iawn
- Cefnogi syniadau drwy gyfiawnhad damcaniaethol, ymchwil a chyfeirnodi priodol
Student will have precisely defined a research problem and demonstrated comprehensive critical awareness of the theoretical context as well as thoroughgoing acquaintance with the appropriate literature. Will have explained and justified the choices made in designing their study. The presentation, including citation and referencing, will be clear and fully accurate.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth a gwerthuso egwyddorion sylfaenol cynllunio ymchwil, gan gynnwys sut i lunio cwestiynau gellir ymchwilio iddynt, dewis dulliau priodol a gwerthfawrogi dulliau eraill o ymchwil.
Demonstrate an understanding and evaluation of the basic principles of research design, including how to formulate research questions, select appropriate methods and appreciate other research methods.
-
Dadansoddi a gwerthuso ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Analysis and evaluate evidence-based research.
-
Archwilio cysyniadau a gwerthuso materion o rym pan yn cyfrannu i’r broses ymchwil.
Explore concepts and evaluate issues of power when contributing to the research process.
-
Dangos dealltwriaeth o faterion allweddol a all godi wrth gynnal ymchwil, gan gynnwys materion methodolegol, ymarferol a moesegol.
Demonstrate an understanding of key issues that may arise in conducting research, including methodological, practical and ethical issues.
-
Asesu pwysigrwydd dilysrwydd, dibynadwyedd, cyffredinoli a rhagfarn yn y broses ymchwil
Assess the importance of validity, reliability, generalization and bias in the research process
-
Ennill lefel uchel o gymhwysedd mewn sgiliau cyflwyno drwy gyflwyno cynnig ymchwil i gyd-fyfyrwyr a’r tim gwaith cymdeithasol.
Gain a high level of competence in presentation skills by submitting a research proposal to fellow students and the social work team.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
1,500 o eiriau | 50.00 | ||
Ymchwil 2,500 o eiriau | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Tua 76 awr o astudio preifat - yn cynnwys darllen, archwilio gwaith ymchwil ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol ar gyfer seminarau/gweithdai ac yn ogystal paratoi ar gyfer asesiadau. |
76 |
Lecture | Dysgu: Addysgu cyfunol: ar lein a wyneb yn wyneb (yn unol a chanllawiau yn ystod argyfwng Covid 19) drwy gyfuniad o darlithoedd, gweithdai a seminarau. |
24 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Deunydd darllen allweddol yn cael ei drafod yn y sesiynau dysgu
Aveyard, H. (2008) Doing a literature review in health and social care. London, Open University Press. Becker, S. Bryman, A. and Ferguson, H. (2012). Understanding research for social policy and social work. Bristol, Policy Press. Beresford, P. (2003) User involvement in health research: Exploring the challenges, Nursing Times Research, 8(1):36-46. Bradley, E.H.; Curry, L.A. and Devers, K.J. (2007) Qualitative data analysis for health services research: developing taxonomy, themes, and theory. Health Services Research, 42, 1758-1772. Carey, M (2009) The Social Work Dissertation, Using Small-Scale Qualitative Methodology. London, Open University Press. De Vaus, D.A. (2001). Surveys in Social Research. London, Sage. David, S. and Sutton, C (2011) Social Research – An Introduction. 2nd Edition. London, Sage. Dickinson, H. (2008) Evaluating outcomes in health and social care. Bristol, Policy Press. Dillman, D.A. (2007) Mail and internet surveys: the tailored design method (2nd ed.). New Jersey, John Wiley and Sons. Flanagan, S. and Hancock, B. (2010) Reaching the hard to reach - lessons learned from the VCS (voluntary and community Sector). A qualitative study. BMC Health Services Research 2010, 10:92 doi:10.1186/1472-6963-10-92. Franzosi, R. (Ed.) (2008) Content analysis. London, Sage. Gilbert, N. (2008) Researching Social Life (3rd ed.) London, Sage. Kiteley, R. and Stogdon, C. (2014) Literature Reviews in Social Work. London, Sage. Kvale, S. (2008) Doing Interviews. London, Sage Publications. Hart, C. (2006) Doing a Literature Search. London, Sage. Humphries, B. (2008) Social Work Research for Social Justice. Basingstoke, Macmillan. Holloway, I. and Freshwater, D. (2007) Vulnerable storytelling: narrative research in nursing. Journal of Research in Nursing, 12, 703-711. Krueger, R.A. and Casey, M.A. (2007) Focus Groups: A practical guide for applied research. Fourth Edition. London, Sage. McLaughlin, H. (2012) Understanding Social Work Research. Second Edition. London, Sage. Nutley, S.M., Walter, I. and Davies, HTO (2007) Using Evidence – How Research Can Inform Public Services. Bristol, Policy Press. Oppenheim, A.N. (2000). Questionnaire design, interviewing and attitude measurement. Continuum International Publishing Group. Patton, M.Q. (2002) Qualitative evaluation and research methods. (3rd Edition). Newbury Park, CA, Sage. Patton. M.Q. (2008) Utilization-focused evaluation. The new century text (4th ed.). London, Sage. Rapport, F.L., Jerzembek, G.S., Doel, M.A., Jones, A., Cella, M. and Lloyd, K.R. (2010) Narrating uncertainties about treatment of mental health conditions. Social Psychiatry and Psychiatric Epidemiology, 45, 371–379. Richards, L. (2005) Handling Qualitative Data: A Practical Guide. London, Sage. Rolfe, G. (2006) Validity, trustworthiness and rigour: Quality of the idea of qualitative research. Journal of Advanced Nursing, 53, 304-310. Rycroft-Malone, J. and Bucknall, T. (Eds.) (2010) Models and Frameworks for Implementing Evidence-Based Practice: Linking Evidence to Action. Wiley. Scott, I. and Mazhindu, D. (2005) Statistics for health care professionals. London, Sage. Shaw, I., Briar Lawson, Orme, J. and Ruckdeschel Eds. (2010) The Sage Handbook of Social Work Research. London, Sage. Sterier, R. (2007) Anti-Oppressive Research in Social work: A Preliminary Definition, British Journal of Social Work 37 857-871. Stewart, D.W., Shamdasani, P.N. and Rook, D.W. (2006) Focus Groups: Theory and Practice. Second Edition. Applied Social Research Methods Series, London, Sage. Watts, J. H. (2008) Emotion, empathy and exit: reflections on doing ethnographic qualitative research on sensitive topics. Medical Sociology Online, 3, 3–14. Wengraff, T. (2009) BNIM. Biographic-Narrative Interpretive Method. Short guide bound with the detailed manual. Version 9.09c, pp. 693. Wiles, R. (2013) What are Qualitative Research Ethics, London, Bloomsbury Academic. Yin, K.R. (2009) Case study research: design and methods (4th ed.) Thousand Oaks, California, Sage.
Journals • British Journal of Social Work • International Journal of Social Research • Journal of Evidence Based Social Work • Journal of Mixed Methods Research • Journal of Social Research and Policy • Qualitative Research • Qualitative Social Work: Research and Practice • Research on Social Work Practice • Social Research: An International Quarterly
Websites/resources www.ccinform.co.uk www.plantyngnghymru.org.uk www.scie-socialcareonline.org.uk (Social Care Online –Previously ELSC) www.rip.org.uk/evidencebank (Research in Practice -Evidence Bank (research reviews –every child matters) www.ripfa.org.uk (Research in Practice for Adults) www.intute.ac.uk www.practicebasedevidence.com (mental health) www.evidencenetwork.org (ESRC's UK Centre for Evidence Based Policy and www.infed.org www.basw.co.uk www.oup.co. uk/social (abstracts form British Journal of Social Work) www.ccw.org.uk (Care Council Cymru) www.jrf.org.uk (Joseph Rowntree Foundation) www.ssrg.org.uk (Social Services Research Group) www.the-sra.org.uk (The Social Research Association) www.invo.org.uk (Involve)