Modiwl UXC-3033:
Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarferol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Ifan Jones
Amcanion cyffredinol
Yn y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr addasu'r sgiliau ysgrifennu, darlledu a chasglu newyddion a ddysgwyd ganddynt yn y modiwl Cyflwyniad i Newyddiaduraeth a'r modiwlau ymarfer newyddiaduraeth yn yr ail flwyddyn ar gyfer yr oes ddigidol, amlgyfrwng. Yn ogystal â chynhyrchu amrywiaeth o gynnwys ar ffurf testun, fideo a sain i lwyfannau digidol, byddant hefyd yn dysgu sut i gynhyrchu cynnwys i ffrydiau'r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac aps er mwyn rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach. Bydd ystafelloedd newyddion rhithwir a gwaith maes yn meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol mewn diwydiant lle mae'r newyddiadurwr yn awdur, dyn camera, cyhoeddwr, darlledwr, argraffydd a chyflwynydd ei newyddion ei hun.
Cynnwys cwrs
Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad i newyddiaduraeth ar-lein, dylanwad technoleg ddigidol newydd ar newyddiaduraeth a'i goblygiadau i'r cyfryngau traddodiadol. Byddwn hefyd yn trafod y materion moesegol a chyfreithiol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu cynnwys ar-lein. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys sut i gasglu newyddion ar-lein, ysgrifennu a chynhyrchu deunydd gweledol a sain i lwyfannau newyddion digidol a sut i sicrhau bod y cynnwys yn cyrraedd cynulleidfa eang. Bydd disgwyl i chi roi'r sgiliau hyn ar waith a chreu eich llwyfan newyddion digidol eich hun, creu cynnwys i'r llwyfan hwnnw a rhannu'r cynnwys hwnnw gyda'r gynulleidfa fwyaf eang posib.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (D-)
Dealltwriaeth o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein
da
Da (B/C)
Dealltwriaeth dda o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth dda o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth dda o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein
ardderchog
Rhagorol (A-)
Dealltwriaeth ragorol o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth ragorol o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth ragorol o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein
Canlyniad dysgu
-
Dysgu, ymarfer a datblygu uwch dechnegau ymchwil a chasglu newyddion ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau academaidd ac anacademaidd mewn modd dadansoddol a beirniadol
-
Dysgu, defnyddio a meistroli amrywiaeth o dechnegau cymhleth ar gyfer casglu a lledaenu newyddion digidol
-
Creu a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o gynnwys gwreiddiol i lwyfannau digidol amlgyfrwng, gyda'r nod o gynhyrchu portffolio o safon broffesiynol
-
. Mewn modd beirniadol, gwerthuso, dewis a datblygu llwyfannau addas megis aps, blogiau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, gyda'r nod o gynhyrchu portffolio o safon broffesiynol
-
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o gyfraith a moesegau'r cyfryngau ym maes cymhleth newyddiaduraeth ddigidol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith Cwrs | 15.00 | ||
Storiau newyddion Ysgrifenedig | 60.00 | ||
Gwefan | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops |
|
11 |
Individual Project | Ymchwilio straeon newyddion a chyfweld â cysylltiadau |
16 |
Private study | Set readings and research |
162 |
Lecture |
|
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- An understanding of creative and critical processes, and of the wide range of skills inherent in creative writing. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.1).
- An awareness of writing and publishing contexts, opportunities and audiences in the wider world (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.1).
- Artistic engagement and ability to articulate complex ideas in oral and written forms. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to connect creative and critical ideas between and among forms, techniques and types of creative and critical praxis. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- Awareness of how different social and cultural contexts affect the nature of language and meaning (English Benchmark Statement 3.2).
- Reflective practitioner skills, including awareness of the practice of others in collaborative learning (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- The ability to synthesize information from various sources, choosing and applying appropriate concepts and methods (English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to formulate and solve problems, anticipate and accommodate change, and work within contexts of ambiguity, uncertainty and unfamiliarity (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to engage in processes of drafting and redrafting texts to achieve clarity of expression and an appropriate style. (English Benchmark Statement 3.3; NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to gather information, analyse, interpret and discuss different viewpoints (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Information technology (IT) skills broadly understood and the ability to access, work with and evaluate electronic resources (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/uxc-3033.htmlRhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- V1PM: BA Hanes gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/HN)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)