Modiwl WMC-4108:
Ymchwilio i Gerddoriaeth
Ymchwilio i Gerddoriaeth 2022-23
WMC-4108
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
30 credits
Module Organiser:
John Cunningham
Overview
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau meddwl ar lefel uchel am gerddoriaeth, sy'n hanfodol i astudio ar lefel Meistr mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. Trwy gyfrwng ystod o repertoire cerddorol, mae'r modiwl yn archwilio amrywiaeth o faterion a dadleuon sy'n berthnasol iawn i weithgaredd cerddorol uwch heddiw, o fewn y byd academaidd a thu hwnt. Mae'n annog pob myfyriwr - boed yn gerddolegwr, cyfansoddwr neu berfformiwr - i ystyried sut mae eu maes gweithgaredd yn cael ei lywio'n uniongyrchol gan feysydd eraill, ac i gynhyrchu gwaith yn eu meysydd arbenigol sy'n adlewyrchu'r gyd-ddibyniaeth hon. Gall pynciau a drafodir gynnwys y canlynol:
• addasu; • dadansoddi; • cynulleidfaoedd a sefydliadau; • awduraeth, unigoliaeth, ac eiddo deallusol; • golygiadau; • uchel ael vs isel ael; • cerddoriaeth a'r byd digidol; • cerddoriaeth i blant; • cerddoriaeth mewn theatr a ffilm; • perfformiadau a oleuir gan gerddoleg; • cenedlaetholdeb a gwleidyddiaeth; • cwestiynau arddull; • cysylltiadau testun-gair.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (C– i C+): Gwaith sy'n dangos dealltwriaeth o gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd gwybodus a rhesymegol, ac a fynegir yn glir. -good -Da (B- i B+): Gwaith sy'n dangos meistrolaeth ar gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd ystyriol, ac a fynegir gydag eglurder a chraffter. -excellent -Rhagorol (A- hyd A*): Gwaith sy'n dangos treiddgarwch newydd i gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd gwreiddiol a chysyniadol, ac a fynegir yn argyhoeddiadol.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu syniadau gwybodus am gerddoriaeth, wedi'u hadeiladu'n gadarn ar syniadau eraill.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu mynegi syniadau datblygedig am gerddoriaeth, a dadlau eu safbwynt.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu nodi ac elwa o gysylltiadau rhwng ymholi cerddolegol ac arferion cyfansoddi a pherfformio.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad unigol
Weighting
40%
Due date
17/11/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith terfynol: gweler llawlyfr modiwlau am ddisgrifiad manwl.
Weighting
60%
Due date
09/01/2023