Modiwl WMC-4113:
Astudiaethau Perfformio Addysg
Astudiaethau Perfformio Addysg 2022-23
WMC-4113
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
John Cunningham
Overview
Mae'r modiwl hwn ar gyfer offerynwyr a chantorion sy'n dymuno ehangu a datblygu eu profiad o berfformio gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa ym maes addysg gerddorol. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau a fydd yn archwilio agweddau ar ddysgu hyfforddi a chyfarwyddo offerynnol/lleisiol. Byddant yn datblygu sgiliau cyfathrebu ac arwain, yn ogystal â datblygu eu gwybodaeth am arddulliau, genre a repertoire cerddorol. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt yn dilyn WMP-4112 Perfformance II yn cael gwersi ar eu hofferynnau eu hunain, neu yn achos chwaraewyr offerynnau nad ydynt yn rhai gorllewinol, ar offeryn cytras.
Assessment Strategy
Trothwy (50-59): Arddangos y canlynol: sgiliau offerynnol/lleisiol digonol; ac ymwybyddiaeth gadarn o faterion sy'n ymwneud ag addysgu, hyfforddi a chyfarwyddo perfformwyr; hyder wrth gyfathrebu ac arwain.
Da (60-69): Arddangos y canlynol: sgiliau offerynnol/lleisiol da; ymwybyddiaeth dda o faterion sy'n ymwneud ag addysgu, hyfforddi a chyfarwyddo perfformwyr; hyder wrth gyfathrebu ac arwain.
Rhagorol (70+): Arddangos y canlynol: sgiliau offerynnol/lleisiol rhagorol; gwybodaeth gadarn a gwreiddiol ar adegau o faterion sy'n ymwneud â hyfforddi a chyfarwyddo perfformiadau; sicrwydd proffesiynol ei naws wrth gyfathrebu ac arwain.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu arddangos gallu technegol a cherddorol datblygedig ar eu hofferyn neu fel canwr.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu creu dull gwybodus academaidd o ddysgu perfformio cerddorol a mynegi hynny ar lafar / yn ysgrifenedig, fel bo'n briodol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu dangos gwerthfawrogiad beirniadol o wahanol ddulliau o ddysgu perfformio cerddoriaeth.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu trwy arddangosiad, cyfleu cyfarwyddyd ac arweiniad mewn addysgeg.
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd byr
Weighting
25%
Due date
23/03/2023
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
Datganiad byr i'w roi yng nghyfnod asesu semester 2
Weighting
25%
Due date
26/05/2023
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Cynllun Addysgu
Weighting
50%
Due date
08/05/2023