Modiwl WXC-3289:
Cyfansoddi (project)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Guto Puw
Amcanion cyffredinol
- Ystyried materion esthetig, athronyddol a cherddoleg sy'n berthnasol i gyfansoddi, ac edrych ar oblygiadau'r rhain trwy'r weithred gyfansoddi
- Datblygu medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau cyfansoddiadol trwy'r weithred o gyfansoddi
- Annog arbrofi mentrus ac arloesi creadigol mewn gwaith cyfansoddi
- Rhoi cyfle i gyflawni gwaith cyfansoddi dros gyfnod hir gan arwain at waith (weithiau) o hyd a maint sylweddol
- Cyfrannu at ddatblygiad personol myfyrwyr fel cyfansoddwyr trwy ddatblygu eu creadigrwydd fel unigolyn
Cynnwys cwrs
Mae’r project yn gyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod estynedig mewn gweithgaredd yn ymwneud â chyfansoddi, gan weithio tuag at greu gwaith, neu weithiau, ar raddfa a hyd sylweddol. Mae myfyrwyr yn cwblhau cyfansoddiad neu bortffolio o gyfansoddiadau ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau, lleisiau, adnoddau electroacwstig ac adnoddau stiwdio, dan gyfarwyddyd arolygwr. Bydd y cyfansoddwyr sydd ar y project yn cwrdd yn gyson fel grŵp i ystyried materion eang ac i rannu syniadau a dulliau. Dylai cyfansoddiadau ddangos dealltwriaeth drylwyr o’u genre, meistrolaeth ar y medrau technegol perthnasol, eglurder o ran bwriad creadigol, a pherthnasedd diwylliannol cyfoes o ran eu dull esthetig. Dylai myfyrwyr gyflwyno cyfansoddiadau ar ffurf sgôr wedi’i nodiannu, recordiad neu gyfuniad. Os yw’r gwaith yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer delwedd symudol, dylech hefyd gyflwyno DVD o gerddoriaeth wedi’i chydamseru â’r llun.
Fel rheol, dylai’r darn neu’r portffolio gymryd rhyw 22 munud, trwy gytundeb â’r arolygwr, ac yn ôl y tempo, cymhlethdod y gerddoriaeth a nodweddion yr adnoddau offerynnol/ lleisiol/ electroacwstig a ddefnyddir. Gall portffolios gynnwys cymysgedd o wahanol genres.
Nid yw’r modiwl hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche.
Meini Prawf
trothwy
Mae'r cyfansoddiad yn dangos peth dychymyg creadigol cyfyngedig, gyda rheolaeth gyfyngedig dros ddeunyddiau cerddorol, a dealltwriaeth brin o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda'r adnoddau (offerynnol a lleisiol). Fawr ddim tystiolaeth o ddull deallusol cyffredinol o ymdrin a'r gwaith.
da
Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel dda o dychymyg creadigol gyda rheolaeth dda dros ddeunyddiau cerddorol, a hynny'n deillio o fedrusrwydd technegol wrth ddefnyddio adnoddau (offerynnol a lleisiol). Mae tystiolaeth hefyd o graffter deallusol.
ardderchog
Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel dda o dychymyg creadigol, gyda llais cyfansoddiad newydd ac unigryw yn dod i'r amlwg, rheolaeth fedrus dros ddeunyddiau cerddorol a meistrolaeth dechnegol dros adnoddau (offerynnol a lleisiol). Mae tystiolaeth hefyd o allu sylweddol o ran meddwl cysyniadol, dealltwriaeth drylwyr o'r materion dan sylw a gwreiddioldeb/craffter dull.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylai’r myfyriwr fod wedi cyrraedd lefel o fedrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau cyfansoddi perthnasol,
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylai’r myfyriwr fod wedi meithrin lefel dda o hunan-hyder wrth weithio gydag offer a deunyddiau cyfansoddi,
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i ddefnyddio asesiadau cytbwys yn ei (g)waith ei hun fel rhan o'r broses greadigol
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i ysgrifennu cerddoriaeth sy’n cynnig profiad gwrando gafaelgar a gwerth chweil,
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd y myfyriwr yn meddu ar y gallu i gyfansoddi cerddoriaeth sy’n cymryd ystyriaeth i’r ymarferion creadigol gyfoes,
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd y myfyriwr wedi meithrin cryn wreiddioldeb a chyrraedd lefel dda o annibyniaeth greadigol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Adroddiad Ysgifenedig | 10.00 | ||
Cyflwyniad Llafar | 10.00 | ||
Project Cyfansoddi | 80.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Tiwtorialau unigol, hyd at gyfanswm o 8 awr trwy gydol y flwyddyn. Dynodir arolygwr i bob myfyriwr, a rhaid i’r myfyrwyr drefnu ymgyngoriadau fel y bo’n briodol. Ar gyfer canllawiau ynglŷn â hyd a sylwedd y cyfansoddiad, gweler Llawlyfr Cwrs Is-radd yr Ysgol Cerddoriaeth ar 'my Bangor'. |
8 |
Seminar | 6 seminar o 50 munud yr un, trwy gydol y flwyddyn. |
6 |
Private study | 386 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Gellir defnyddio sgorau a recordiadau CD o Lyfrgell PB
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 3 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 3 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 3 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 3 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 3 (BA/HMUIE)
- WW39: BA Music and Creative Writing with International Experience year 3 (BA/MCWIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 3 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 4 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 3 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 3 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 4 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 4 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 4 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 3 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 3 (BA/MUSCW)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 3 (BA/MUSF)
- WW36: BA Music and Film Studies year 3 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 4 (BA/MUSP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 3 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 3 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 3 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 3 (BMUS/MUSF)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 3 (BSC/EEM)