Modiwl XAC-2030:
Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mr Clive Underwood
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth aelodau'r cwrs o ystyron y termau cynhwysiant, addysg gynhwysol, ac ADY. Bydd aelodau'r cwrs yn dysgu, trwy ymchwil, am yr ystod o resymau pam y gall rhai disgyblion brofi anghenion dysgu ychwanegol, a'r dulliau a'u defnyddir gan ysgolion ac asiantaethau eraill i gefnogi dysgwyr ag ADY.
Bydd aelodau'r cwrs yn archwilio gwahanol astudiaethau achos o ddulliau o gynhwysiant a chefnogaeth ar gyfer disgyblion ag ADY. Fe'u hanogir i werthuso'n feirniadol ymatebion i anghenion dysgu disgyblion, yng nghyd-destun ymchwil ddiweddar a chanllawiau a deddfwriaeth statudol y llywodraeth.
Trwy fabwysiadu'r dull hwn, anogir aelodau'r cwrs i fyfyrio ar y materion allweddol sy'n gysylltiedig â chynhwysiant a darparu gwasanaethau ac addysg i ddisgyblion ag ADY yng Nghymru a thu hwnt.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl yn cynnwys:
- Cyflwyniad i'r cysyniadau a'r derminoleg a ddefnyddir ym maes cynhwysiant, addysg gynhwysol ac ADY.
- Hanes cynhwysiant ac addysg gynhwysol
- Archwiliad o'r system ADY mewn ysgolion yng Nghymru a thu hwnt
- Archwiliad a gwerthusiad o wahanol fathau o ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- Asesiad o ddulliau amlasiantaethol o gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Meini Prawf
trothwy
Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth derbyniol o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
da
Gwybodaeth a dealltwriaeth da o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth arwyddocaol o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
ardderchog
Gwybodaeth a dealltwriaeth cynheysfawr o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio’n feirniadol mewn dyfnder ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth cynhwysfawr o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
Canlyniad dysgu
-
Adolygu’n feirniadol ystod o astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r broses gynhwysol.
-
Arddangos dealltwriaeth beirniadol o natur a phwrpas sefydliadau, swyddogaeth oedolion, mewn cefnogi anghenion y plant a’r bobl ifanc.
-
Arddangos dealltwriaeth cynhywsfawr o gyflyrau Anghenion Dysgu Ychwanegol cyffredin a’u diffiniadau a gwerthuso effaith gwahanol strategaeth a dulliau addysgol wrth gwrdd ag anghenion a hawliau unigolyn;
-
Arddangos dealltwriaeth beirniadol o gysyniadau ac egwyddorion cyfoes ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwerthuso sut mae'r rhain yn berthnasol i bolisi ac ymarfer mewn perthynas â darpariaeth gynhwysol i gyflawni anghenion plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
-
Canfod a gwerthuso swyddogaethau gweithwyr proffesiynol o sawl asiantaeth wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, er mwyn cael mynediad at addysg gynhwysol, gwasanaethau a chymdeithas;
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Written assignment, including essay | Dadansoddiad ysgrifenedig o'r astudiaeth achos a ddewiswyd | 50.00 | |
Written assignment, including essay | Traethawd Beirniadol; Dadansoddi a myfyrio ar ddull cydweithredol o gwrdd ag ADY. | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 36 awr o amser cyswllt yn cael ei ddarparu mewn dull dysgu cyfunol, yn cynnwys darpariaeth ar-lein ar ffurf tasgau strwythuredig, darlleniadau, cyflwyniadau wedi'u recordio a rhai seminarau cymorth wyneb yn wyneb. |
36 |
Work-based learning | Lleoliad (neu gwaith ymchwil, os nad yw mynychu lleoliad yn bosibl): 18 awr (3 @ 6 awr yr wythnos neu 6@3 awr yr wythnos) |
18 |
Private study | Astudiaeth Personol (146 awr) |
146 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 2 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 2 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 2 (BA/CYP)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 2 (BA/CYS)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 2 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 2 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)