Modiwl XAC-2034:
Datblygu Ymarfer Effeithiol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Mr Clive Underwood
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth, trwy amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gwadd, am arferion gweithio asiantaethau cyfoes sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd hefyd yn craffu ar y berthynas broffesiynol rhwng teuluoedd ac asiantaethau mewn ystod o gyd-destunau.
Mae hefyd yn darparu profiadau ymarferol o'r ystyriaethau pwysicaf sydd ynghlwm wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd oherwydd bydd y myfyrwyr yn mynd ar leoliad sy'n ceisio cynnig profiad uniongyrchol o weithle neu leoliad gwirfoddol ac yn datblygu ymwybyddiaeth o ofynion y lleoliad hwnnw. Bydd yn rhoi cyfle iddynt ryngweithio a datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn cyfathrebu ac ymddygiad proffesiynol mewn amgylchedd ffurfiol neu anffurfiol. Bydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hefyd i adfyfyrio ar eu llwybr gyrfa eu hunain.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn cynnwys: • Dadansoddiad o faterion yn ymwneud â datblygu partneriaethau proffesiynol, ar sail fframwaith gwaith cymdeithasol o ddadansoddi gwybodaeth, gwerthoedd a sgiliau, ac astudiaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau pobl allweddol sy’n darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Yn ystod y semester cyntaf: • Bydd ystod o weithwyr proffesiynol o nifer o asiantaethau yn annerch y myfyrwyr ynglyn a datblygu partneriaethau llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Yn ystod semester dau • Bydd myfyrwyr yn gwneud cyfnod o brofiad gwaith mewn lleoliad priodol. Gallai hyn fod ar ffurf diwrnod yr wythnos, hanner diwrnod yr wythnos neu gyfres o weithgareddau sy’n para am gyfnodau amrywiol. Bydd angen tystiolaeth o bresenoldeb.
Meini Prawf
trothwy
Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio a gwerthuso eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith.
da
Gwybodaeth a dealltwriaeth da o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio’n feirniadol a gwerthuso eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith.
ardderchog
Gwybodaeth cynhwysfawr a dealltwriaeth ardderchog o bartneriaethau ac arferion gwaith effeithiol yng nghyd-destun sefydliadau sy’n darparu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a’r gallu i adfyfyrio’n feirniadol a gwerthuso mewn dyfnder eich cyfraniad yn ystod y lleoliad gwaith.
Canlyniad dysgu
-
Dadansoddi’n feirniadol y wybodaeth, y gwerthoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu arferion gweithio a phartneriaethau gyda rhieni a gofalwyr, cydweithwyr a phlant a phobl ifanc;
-
Adnabod, mewn dyfnder, swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiaeth o bobl allweddol, sy'n darparu gwasanaethau i blant, teuluoedd a systemau ar gyfer datblygu partneriaethau ag eraill;
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol ddyfnach o faterion yn ymwneud â darparu gwasanaethau o ansawdd i bobl ifanc trwy brofiad ar leoliad;
-
Dangos dealltwriaeth beirniadol o’u swyddogaeth o fewn y sefydliad a dealltwriaeth o berthnasedd y profiad o ran datblygu ffocws gyrfa.
-
Deall y cysyniad o gyflogadwyedd a sut mae modd gwella cyflogadwyedd unigolyn
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | 64 | |
External visit | 4 | |
Private study | 122 | |
Work-based learning | 10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 2 (BA/API)