Newyddion: Medi 2013

Darganfod ail gloc mewnol yn y lleuen fôr frith

Mae gan y lleuen fôr frith (Eurydice pulchra) ddau gloc mewnol yn y corff, un ar gyfer nos a dydd ac un arall ar gyfer llanw a thrai, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 26 Medi.

Mewn papur yn y cyfnodolyn Current Biology, mae ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caergrawnt a Chaerlŷr yn cadarnhau bodolaeth cloc mewnol ar wahân ac annibynnol sy'n dilyn cylch 12.4 awr y llanw.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Cregyn bylchog yn datgelu cyfrinachau newid yn yr hinsawdd forol

Mae gwyddonwyr morol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn y Brifysgol yn casglu data defnyddiol am newid yn yr hinsawdd forol- a hynny o fan annisgwyl- cregyn môr.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2013

Cyhoeddi safle dewisol y Parc Gwyddoniaeth

Heddiw, mae Parc Gwyddoniaeth Menai wedi cyhoeddi mai safle 50 erw yn Gaerwen yw safle dewisol y parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru. Mae'r safle, sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd, yn un o dri safle ar Ynys Môn oedd ar restr fer tîm project y parc gwyddoniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013

Prifysgol Bangor i arwain project gwerth miliynau o bunnoedd yn Ewrop i astudio hanes ein moroedd

Hanes amgylchedd morol Ewrop dros y mil o flynyddoedd diwethaf yw targed project €3.1 miliwn (£2.6 miliwn), a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a arweinir gan wyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.  Mae’r project hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Norwy, yr Almaen, Ffrainc, Croatia, Gwlad Pwyl a'r Iseldiroedd a bydd yn defnyddio cregyn  molysgiaid hirhoedlog iawn fel cofnod o newid amgylcheddol dros y mil o flynyddoedd diwethaf. Mae'n adeiladu ar ymchwil a ddatblygwyd yn wreiddiol ym Mangor gan yr Athro James Scourse a'r Athro Chris Richardson a arweiniodd yn 2007 at ddarganfod yr anifail mwyaf hirhoedlog sy'n adnabyddus i wyddonwyr, sef cragen fylchog o Wlad yr Ia a oedd wedi byw am 507 o flynyddoedd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013

Estyniad i ddyddiad cau Efrydiaethau PhD Menter Gydweithredol Academaidd Cymru i Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC)

Rydym yn falch o gyhoeddi bod estyniad wedi ei roi i ddyddiad cau Efrydiaethau PhD Menter Gydweithredol Academaidd Cymru i Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC). Rhaid i rai sy’n dymuno gwneud cais ei anfon erbyn y dyddiad cau newydd, sef Dydd Llun, 30 Medi 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2013

Food Dudes Ifanc yn Arwain y Ffordd i Feithrinfeydd Iach

Enillodd rhaglen newydd gyffrous sy’n gweithio i sefydlu arferion bwyta da ymhlith plant ifanc iawn brif Wobr Ymchwil Iechyd LARIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Awdurdodau Lleol), mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Manceinion.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013

Micro-geliau ym mhacrew'r Arctig a’r Antarctig

Ers 2006 mae’r Athro Graham Underwood a Dr Shazia Aslam o Brifysgol Essex a’r Athro David Thomas o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi arwain nifer o brojectau (wedi eu cyllido gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol) i astudio cynhyrchiant micro-geliau, a'u pwysigrwydd eang i ardaloedd oeraf cefnforoedd y byd. Buont yn gweithio mewn tîm gyda chydweithwyr o Awstralia a Chanada i gasglu a dadansoddi creiddiau rhew o’r Arctig a’r Antarctig.  Saith mlynedd ar ôl hynny, ac ar ôl sawl taith rynllyd, maent yn cyhoeddi canfyddiad sydd yn dipyn o syndod. Maent hwy, a'u cydweithwyr wedi darganfod bod perthynas gref yn rhew’r Arctig a’r Antarctig – rhwng natur ffisegol y rhew,  faint o ficrobioleg sydd ynddo, a chrynodiadau’r geliau.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Niwrowyddoniaeth y Parthau Nwydus

Mae ein parthau nwydus ychydig yn od. Mae yna rannau penodol o’n cyrff, o’u cyffwrdd yn dyner, sy’n creu teimladau nwydus, er nad yw rhannau cyfagos o’r corff yn creu’r un teimladau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd merch yn mwynhau’r teimlad o gael ei mwytho ar ei gwddf neu’i chlust ond nid felly ar ei boch neu’i thalcen. Beth yw’r rheswm am hynny?

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU

Mae un sefydliad dielw, ymddiriedolaeth ymchwil Sárvári, yn gweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cnydau newydd o domatos i arddwriaethwyr yn y DU. Yr amcan yw datblygu math newydd o domatos gwydn masnachol ac a fyddai'n gwrthsefyll malltod hwyr, y clefyd neu organeb sydd gan amlaf yn dinistrio unrhyw gnwd o domatos a dyfir yn yr awyr agored.  Yr un organeb a achosodd y malltod tatws a arweiniodd at y newyn tatws yn Iwerddon. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Project myfyriwr yn dangos ei bod yn ddiogel bwyta mwyar duon ar ochrau ffyrdd

Mae’n adeg o’r flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn hel ffrwythau, fel mwyar duon, ar ochrau ffyrdd.  Fodd bynnag, mae rhai'n pryderu y gall ffrwythau meddal sy'n tyfu ar ochrau ffyrdd gynnwys lefelau uchel o fetelau trwm o ganlyniad o ollyngiadau o gerbydau. 

Nod astudiaeth wyddonol a wnaed gan James Slack, myfyriwr o Sir Durham, fel rhan o'i radd BSc mewn Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, oedd gweld a oedd hyn yn wir ai peidio.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013

Yr Athro Ray Karl yn llwyddo i ddenu dros £575,000 mewn grant cydweithredol

Mae'r Athro Ray Karl, sy'n Athro Archaeoleg a Threftadaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn gyd-arweinydd y project 'Cyd-gynhyrchu safbwyntiau amgen am dreftadaeth goll' sydd wedi ennill grant gwerth oddeutu £575,000 o dan geisiadau 'Cymunedau Cysylltiedig' Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013

Cydnabod arloesedd yn y bio-economi

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Bio-buro, BEACON, canolfan ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy, wedi ei chynnwys ar y rhestr fer Gwobrau RegioStarts y Comisiwn Ewropeaidd 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013

Defnyddio ein heulwen Gymreig

Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan.  Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni.

Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013