Newyddion: Medi 2015

Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ

Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015

Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG

Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf.

Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015

How to take the pressure off the cost of our water supply

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr John Gallagher, ymchwilydd ôl-ddoethurol o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2015

Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru yn annog ailystyried polisïau yn radical i hybu swyddi yng ngogledd Cymru

Trefnwyd Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru ar Sgiliau a Chyflogaeth ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, Medi 18 gan Dr Tony Dobbins (Ysgol Busnes Bangor) a Dr Alexandra Plows (Ysgol Gwyddorau Cymdeithas). 

Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i wahanol fudd-ddeiliaid y farchnad lafur ddod ynghyd i drafod ymyriadau polisi sydd eu hangen i wella'r ffordd y defnyddir sgiliau ac i hybu nifer y swyddi o ansawdd da yng Nghymru. Mae'n amlwg bod cytundeb cyffredinol yn datblygu ymhlith gwahanol fudd-ddeiliaid nad yw'r polisïau marchnad lafur presennol ar gyfer Cymru yn gweithio a bod angen ailystyried polisïau i raddau helaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015

Prifysgol Bangor yn croesawu project newydd gwerth £17m i ddatblygu ymchwil gwyddonol yng Nghymru

Heddiw (dydd Mercher, 9 Medi) cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, ei bod wedi sicrhau dros £17m ar gyfer denu 90 cymrawd ymchwil newydd o bob cwr o Ewrop i ddatblygu ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng Nghymru.

Ar ôl curo cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop mae Llywodraeth Cymru wedi cael £7m drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n rhan o raglen Horizon 2020 yr UE. Bydd Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru’n darparu £10m o gyllid cyfatebol. Bydd y cymrodorion ymchwil yn gweithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor ac ym Mhrifysgol De Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015

Ocsid nitraidd o fannau troeth – ni ddylai neb chwerthin am hyn!

Adwaenir ocsid nitraidd (N2O) yn arferol fel ‘nwy chwerthin’ a defnyddir ef mewn anesthetigion a hefyd fel ‘cyffur penfeddwol cyfreithlon’, ac mae’n nwy tŷ gwydr pwerus a gynhyrchir yn y pridd gan ficro-organebau, yn enwedig ar dir a borir gan anifeiliaid.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015