Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad hwn i staff, sef lansio Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Rhyddmau Bywyd a’r gronfa ddata arbenigedd
Dros y tair blynedd nesaf, bydd rhaglen hyfforddiant doethurol Leverhulme ‘Rhyddmau Bywyd’ Prifysgol Bangor yn recriwtio 30 o Ysgolheigion Doethurol i astudio sut mae rhythmau biolegol yn dylanwadu ar fywyd ar y Ddaear a sut mae newid amgylcheddol a achosir gan bobl yn effeithio ar y rhythmau hyn o ran iechyd ecosystemau a bywyd dynol a chymdeithasau.
Cynhelir digwyddiad lansio i staff o 1:00yp ar Ddydd Mercher, 30 Medi yn Neuadd Reichel a fydd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen, y project doethuriaeth a'r prosesau dethol ymgeiswyr, a’r gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael i ysgolheigion. Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb a gweithgareddau rhwydweithio i annog ffurfio perthnasau newydd ar draws y Brifysgol. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y digwyddiad hwn, yna cofrestrwch yma.
Cyfarwyddiadau diwygiedig ar gyfer cynigion PhD: Mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer ceisiadau prosiect PhD wedi'u diweddaru o'r cyhoeddiad cychwynnol a anfonwyd at yr holl staff; mae'r rhain ar gael drwy ein tudalen staff fewnol. Gwnaed y newidiadau hyn mewn ymateb i geisiadau gan staff am eglurhad ynghylch y rheolau ar gyfer cwotâu ceisiadau a phrofiad y tîm goruchwylio.
Mae’r tîm Rhythmau Bywyd wrthi'n datblygu gwefan y rhaglen ar hyn o bryd ac fe hoffen nhw lunio rhestr staff o bob cwr o'r Brifysgol sydd â diddordebau ymchwil ac arbenigedd sy'n cyd-fynd â'r rhaglen. Os hoffech chi gael eich cynnwys, nodwch eichmanylion yma. Bydd y gronfa ddata arbenigedd fewnol hon hefyd yn galluogi staff i ddod o hyd i gydweithwyr posibl i ddatblygu cynigion ar gyfer projectau doethurol.