Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Awst 2016
MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn tynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol
Mae datblygu MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn y flwyddyn academaidd hon yn cynnig cyfle cyffrous i staff clinigol sy'n ymwneud â gofal dementia, yn y gymuned ac mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fe'i datblygwyd drwy waith partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, BCUHB a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r MSc mewn Astudiaethau Dementia yn dechrau o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac yn archwilio meysydd arfer clinigol ac ymchwil o’r safbwynt hwn trwy gydol y cwrs, gan graffu ar faterion pwysig sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia a'r dulliau gorau o ddarparu gofal rhagorol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Ydi’r duedd i ddefnyddio iau pinc cywion ieir yn ein gwneud yn sâl?
Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gymryd y duedd i ddefnyddio iau cyw iâr 'pinc' mewn ryseitiau gyda phinsiad o halen. Darganfu ymchwil o Brifysgolion Bangor, Manceinion a Lerpwl bod o duedd bresennol o ddarparu iau cyw iâr sydd prin wedi’i goginio yn achosi risg o wenwyn bwyd campylobacter i’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Ydi’r duedd i ddefnyddio iau pinc cywion ieir yn ein gwneud yn sâl?
Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gymryd y duedd i ddefnyddio iau cyw iâr 'pinc' mewn ryseitiau gyda phinsiad o halen. Darganfu ymchwil o Brifysgolion Bangor, Manceinion a Lerpwl bod o duedd bresennol o ddarparu iau cyw iâr sydd prin wedi’i goginio yn achosi risg o wenwyn bwyd campylobacter i’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Lleisiau pêl-droedwyr: gamblo a dibyniaeth mewn pêl-droed
Yn ddiweddar mae adroddiadau ar y cyfryngau wedi rhoi sylw i broblemau gamblo ymysg lleiafrif o bêl-droedwyr proffesiynol. Mae ymchwil newydd a gohoeddir yn Addiction Research wedi dangos sut y gall rhai chwaraewyr fynd i drafferthion gyda'u gamblo a beth y gellir ei wneud i'w helpu i chwilio am driniaeth.
Cafodd pêl-droedwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol, sydd wedi wynebu problemau gamblo, eu cyfweld fel rhan o ymchwil gan brifysgolion Bangor, Llundain a Rhydychen. Clywodd yr ymchwilwyr yn uniongyrchol gan y chwaraewyr beth oedd eu profiadau o gamblo a sut a pham y daeth gamblo'n broblem iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Sidan pryf cop: Uwchlens Natur Wyllt
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Bangor a Rhydychen wedi llwyddo i gyflawni camp nas gwelwyd o'r blaen: defnyddio sidan pryf cop fel uwchlens i gynyddu potensial microsgop.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Dr Coetzer ar restr fer Llyfr y Flwyddyn BPS 2016
Mae gan Dr Coetzer swydd ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae ei lyfr ”Working with Brain Injury” wedi ei roi ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016
Mae nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, ond bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn ystod y broses glirio.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn tablau cynghrair prifysgolion yn ddiweddar tra mae'r campws yn Wrecsam yn parhau i elwa o fuddsoddiad pellach. Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o'r cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd i fyfyrwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, sy'n golygu bod gan ei chyrsiau rhagorol, ar gampws Bangor a Wrecsam, leoedd ychwanegol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2016 a mis Ebrill 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016
Gweld yr anweledig: defnyddio gleiniau nano i wneud uwchlensys
Mae papur yn Science Advances (12 Awst) yn rhoi prawf o gysyniad newydd, gan ddefnyddio uwchlensys 3D solid newydd i dorri drwy raddfa pethau a oedd ond i'w gweld yn flaenorol drwy ficrosgop.
Gan ddangos cryfder yr uwchlensys newydd, mae'r gwyddonwyr yn disgrifio gweld, am y tro cyntaf, y wybodaeth ei hun ar arwyneb DVD Blue Ray. Nid yw'r wyneb sgleiniog hwnnw mor llyfn ag rydym yn ei ddychmygu. Ni all microsgopau presennol weld yr hiciau sy'n cynnwys y data - ond nawr datgelir hyd yn oed y data ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2016
A 400-year-old shark is the latest animal discovery to reveal the secrets of long life
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Paul Butler o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016
How Pokemon Go turned couch potatoes into fitness fanatics without them even realising it
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John A Parkinson o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno.
Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.
Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Grant i gyllido ymchwil i fanciau’n cau yng Nghymru
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae banciau wedi cau dros 600 o ganghennau yn y Deyrnas Unedig. Ond sut mae'r nifer yng Nghymru'n cymharu â hyn?
Dyna'r cwestiwn y bydd Dr Edward Jones o Ysgol Busnes Bangor yn ceisio ei ateb, diolch i grant ymchwil a gafwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2016
Cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng Ngogledd Cymru
Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng ngogledd Cymru. Bydd Academi Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi twf busnes a chystadleurwydd yn y rhanbarth trwy gyflwyno cymwysterau arwain a rheoli wedi eu hachredu gan brifysgol i dros 1,000 o weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Caiff Academi Talent Ifanc hefyd ei sefydlu i ddatblygu a chadw'r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2016