Astudiaeth yn cysylltu'r dotiau rhwng genynnau, yr ymennydd ac ymddygiad dynol

Cynllun cydweithredol rhyngwladol yn mapio marcwyr genetig datblygiad yr ymennydd mewn pobl gyda syndrom Williams

Mae sefydlu cysylltiadau rhwng genynnau, yr ymennydd ac ymddygiad dynol yn fater canolog mewn ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol, ond mae astudio sut mae genynnau'n dylanwadu ar alluoedd gwybyddol ac ymddygiad wrth i'r ymennydd ddatblygu o blentyndod i oedolaeth wedi bod yn anodd.

Nawr, mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, dan arweiniad Debra Mills, Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Bangor, wedi symud ymlaen o ran deall sut mae genynnau'n dylanwadu ar blastigrwydd yr ymennydd o ran adnabod wynebau a deall iaith yn ystod datblygiad.  Fe wnaeth y tîm astudio unigolion rhwng 8 a 55 oed sydd ag anhwylder genetig prin a elwir yn Syndrom Williams. Mae Syndrom Williams yn gysylltiedig â dileu tua 25 o enynnau o Gromosom 7.  Er bod pobl gyda'r syndrom hwn yn araf yn datblygu a chydag anableddau dysgu, maent yn eithriadol o gymdeithasol a chyda galluoedd geiriol rhagorol a sgiliau adnabod wynebau o ystyried eu IQ is. Trwy fesur gweithgaredd niwronau yn yr ymennydd, dangosodd Mills a'i chydweithwyr y gall yr ymennydd ei drefnu ei hun yn wahanol i wneud iawn am yr abnormalrwydd genetig.  Hynny yw, mae gan bobl gyda Syndrom Williams alluoedd gwybyddol cryf o ran adnabod wynebau a phrosesu iaith, ond trwy ddefnyddio systemau niwral gwahanol.  Gelwir hyn yn blastigrwydd yr ymennydd.

"Ymysg y bobl hynny gyda Syndrom Williams, fe wnaethom ddarganfod fod yr ymennydd yn deall iaith ac yn adnabod wynebau mewn ffordd unigryw.  Roedd y patrwm hwn o weithgaredd ymennydd yn amlwg mewn unigolion gyda Syndrom Williams, o blentyndod cynnar ymlaen i ganol oed.  "Roedd hyn yn syndod, oherwydd roedd astudiaethau blaenorol wedi awgrymu bod rhan o swyddogaethau ymennydd pobl gyda Syndrom Williams yn gweithredu'n normal mewn oedolaeth, gyda fawr ddim dealltwriaeth ynghylch sut y datblygodd."  Llwyddwyd i ddatrys darn arall allweddol o'r pos drwy gynnwys yn eu hastudiaeth ddau oedolyn a oedd heb rai'n unig o'r genynnau a welir gyda Syndrom Williams.  Trwy gymharu gweithgaredd ymennydd o unigolion a oedd heb rai genynnau â rhai a oedd wedi eu colli i gyd, fel y gwelir gyda Syndrom Williams, roeddem yn gallu gweld sut roedd gwahaniaethau genetig bychain iawn yn effeithio ar weithgaredd yr ymennydd o ran adnabod wynebau ac iaith."

"Trwy ganfod y genynnau penodol sy'n gysylltiedig ag anhwylderau cymdeithasol bydd ein darganfyddiadau'n helpu i bennu targedau ar gyfer triniaeth a all lwyddo i liniaru awtistiaeth, gorbryder ac anhwylderau eraill," meddai Korenberg.

Arweiniwyd agweddau geneteg yr astudiaeth newydd gan Julie Korenberg, Athro ym Mhrifysgol Utah.  Bu Ursula Bellugi, athro yn y Salk Institute for Biological Studies yn La Jolla, ac arloeswr ym maes astudio cymdeithasgarwch yn Syndrom Williams, hefyd yn ymwneud â'r ymchwil.  

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn rhifyn Tachwedd o  Developmental Neuropsychology, Mills et al. 2013

************

Y cyfeiriad llawn yw:

Mills, D., Dai, L., Fishman, I. , Yam, A., Applebaum, G., St. George, M., Galaburda, A., Bellugi, U, & Korenberg, J. (2013). Genetic mapping of brain activity in Williams syndrome: ERP markers of face and language processing across development. Developmental Neuropsychology, 38:8, 613-642."     

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2013