Digwyddiadau Y Lab Cynaliadwyedd
Mae'r Lab Cynaliadwyedd wedi cael cynnig cartref mwy canolog ar gyfer y MelinauTrafod Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor yn Ystafell y Gofyniad yn Undeb y Myfyrwyr!
Rydym ni hefyd yn symud i 1-2pm dydd Mawrth i ryddhau pobl ar gyfer gweithgareddau ar brynhawniau Mercher.
Dyddiadau ar gyfer y semester hwn
Dydd Mawrth, 30 Ionawr - Ynni ym Mangor: sut rydym yn ei reoli - sut gallwch chi ein helpu i'w reoli'n well? Wedi'i hwyluso gan Liz Shepherd, Cydlynydd Ynni'r Campws
Dydd Mawrth, 27 Chwefror - Ymgyrch rhoi'r gorau i ddefnyddio gwelltyn. Wedi'i hwyluso gan Ruth Plant, Llywydd Undeb Myfyrwyr Undeb Bangor
Dydd Mawrth, 20 Mawrth - testun i'w gadarnhau*
Dydd Mawrth, 24 Ebrill - testun i'w gadarnhau*
Dydd Mawrth, 22 Mai - testun i'w gadarnhau*
* Mae sesiynau Mawrth, Ebrill a Mai yn dal ar agor ar gyfer awgrymiadau ynghylch y testun - croesewir pob awgrym felly cofiwch ddweud eich dweud!
I weld y wybodaeth ddiweddaraf ewch i'n tudalen ddigwyddiadau.
Chi a'r MelinauTrafod Cynaliadwyedd
Mae ein MelinauTrafod misol yn gyfle i chi lywio Prifysgol Bangor yn ei hymgais i ddod yn Y Brifysgol Gynaliadwy. Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio allan sut y gallwn wella elfennau lles, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, cyllidol Bangor ar gyfer y bobl a'r cymunedau yn y campws a'r Brifysgol ei hun, a'r ardal o'i hamgylch.
Rydych chi'n dod â chynaliadwyedd ym Mangor yn fyw
Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n staff, dewch draw da chi. Dewch i wybod yr hyn sy'n mynd ymlaen, ac ymuno gyda'r cannoedd o fyfyrwyr a staff eraill sydd eisoes yn cymryd rhan. A oes gennych chi syniad ynghylch gweithgarwch neu broject cymdeithasol, amgylcheddol neu ffyniant, ond dydych chi ddim yn gwybod sut i ddechrau? Dewch â’ch syniadau! Os nad oes gennych unrhyw syniadau, dewch â'ch brwdfrydedd a'ch chwilfrydedd!
Sut i gymryd rhan
I ymuno, dewch draw ar y diwrnod - croeso i bawb! Os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod ond nad ydych yn siŵr i ba FelinDrafod mae'n gweddu, neu hyd yn oed os ydych yn teimlo nad yw'n gweddu i'r un o'r MelinauTrafod sydd ar gael, cysylltwch â mi, a byddwn yn dod o hyd i ffordd o'i gynnwys.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018