Diogelu bwyd môr trwy reoli ein moroedd

Oherwydd y pryderon cynyddol ynglŷn â ‘diogelwch bwyd’ i’r DU, ochr yn ochr â’r lleihad mewn buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil i bysgodfeydd, mae rhai wedi cwestiynu sut y gallwn ateb anghenion am wybodaeth yn y dyfodol, fel y gellir rheoli ein moroedd mewn modd cynaliadwy.

Mae gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn dadlau nad oes digon yn wybyddus ynglŷn â physgodfeydd sgolopiau yn y DU, a hynny er gwaethaf eu pwysigrwydd cynyddol i’r sector pysgodfeydd yn y DU.

Bob blwyddyn yn y DU, delir 58,000 o dunelli metrig o sgolopiau gwerth £69m ar y gwerthiant cyntaf yn unig. Mae’r gwerth adwerthol ac mewn bwytai dipyn uwch.

Mae Prifysgol Bangor wedi cynnal astudiaeth 3-blynedd ar bysgodfa sgolopiau’r Sianel mewn ymgais i lenwi’r bwlch o ran gwyddoniaeth mewn project a gyllidir gan gonsortiwm o broseswyr pysgod, cwmnïau pysgodfeydd, archfarchnad Morrison’s a’r elusen Fishmonger’s Hall.

Meddai’r Athro Michel Kaiser, sy’n brif oruchwyliwr ar y project: “Mae’r astudiaeth PhD hon yn arwyddocaol am nifer o resymau, nid yn lleiaf am ei bod yn dangos y modd y mae buddiannau pysgota yn deall yn fwy nag erioed bwysigrwydd gwyddoniaeth dda fel sylfaen i ddyfodol eu busnes. Mae hyn hefyd o bwys mawr i’r DU yn ei chrynswth, wrth i fwy o bobl gwestiynu pa mor ddiogel a chynaliadwy yw ein ffynonellau bwyd mewn gwirionedd.”

Meddai Mark Greet, Prif Weithredwr Falfish Ltd, sy’n un o brif noddwyr y project: “Mae pysgodfa anaddas ar gyfer sgolopiau yn ddrwg i fusnes, ac roeddem yn cael ein dal yn ôl gan ddiffyg gwyddoniaeth ar y bysgodfa hon. Y nod yn y tymor hir yw symud y bysgodfa ymlaen fel y bydd yn gymwys i ennill tystysgrif y Cyngor Stiwardiaeth Forol.

“Er y gall hyn fod yn y dyfodol gweddol bell, mae’r project yn sefydlu llawer o’r prif elfennau sydd eu hangen, ac rydym bellach yn gwybod llawer mwy am sgolopiau yn y Sianel o ganlyniad i wyddoniaeth Prifysgol Bangor.

“Erbyn hyn, mae gennym well dealltwriaeth o ddosbarthiad pysgota am sgolopiau dros y Sianel, ac o’r mathau penodol o gynefinoedd lle mae pysgota am sgolopiau yn digwydd. Mae gennym well dealltwriaeth hefyd ynglŷn â phryd a lle mae’r sgolopiau yn epilio ar wahanol adegau o’r flwyddyn,

“Rwy’n credu y gall rhannau eraill o ddiwydiant pysgota’r DU hefyd ddysgu rhai gwersi gwerthfawr o’r ymchwil hon, yn cynnwys pwysigrwydd cydweithio ag eraill yn y diwydiant comisiynu ymchwil a fydd yn fuddiol i ni i gyd yn y dyfodol.”

Meddai’r fyfyrwraig PhD Claire Szostek: “Mae’r project hwn wedi dibynnu’n drwm ar gefnogaeth pysgotwyr unigol ar hyd y Sianel sydd wedi caniatáu imi fynd ar eu cychod ac astudio’r hyn y maent wedi’i ddal.

“Bu pysgotwyr yn fodlon iawn ateb holiaduron ar batrymau o ran eu gwaith pysgota, a buont yn agored iawn wrth ganiatáu mynediad i draciau eu llongau, fel y gallwn fapio pa rannau o’r môr y mae pysgota sgolopiau yn effeithio arnynt.”

Bu eu cydweithrediad mor llwyddiannus fel y cynhyrchwyd fideo i dynnu sylw at ganlyniad cadarnhaol y bartneriaeth rhwng tîm Bangor a’r pysgotwyr oedd yn cymryd rhan yn y project. Mae i’w weld ar http://vzaar.tv/1299803

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2014