Golwg ar Ymchwil – Cystadleuaeth ffotograffiaeth i staff ac ymchwilwyr ôl-radd

Mae Prifysgol Bangor ac Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi’r gystadleuaeth ddelwedd ymchwil flynyddol gyntaf i staff ac ymchwilwyr ôl-radd. Fe’ch gwahoddir i gyflwyno delweddau fydd yn addysgu, yn goleuo ac yn ennyn diddordeb cynulleidfa nad ydynt yn arbenigwyr, a rhoi golwg weledol ar ymchwil ôl-radd a wneir ym Mangor ar hyn o bryd. Rhagor o fanylion

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2017