How to Get Published: Traditional and Innovative Approaches to Publishing.
Mae Sage Publishing yn ymweld â Bangor ar 6ed Mehefin a bydd yn cyflwyno seminar: How to Get Published: Traditional and Innovative Approaches to Publishing.
Mae’r sesiwn awr o hyd hon wedi'i hanelu at fyfyrwyr doethuriaeth ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Bydd yn trafod sut i gyhoeddi mewn dulliau traddodiadol fel llyfrau a chyfnodolion, sut i gynyddu eich effaith a sut i ymwneud â dulliau mwy arloesol o ledaenu gwybodaeth, megis cyfryngau cymdeithasol a blogiau.
Bydd y sesiwn hon fwyaf perthnasol i fyfyrwyr/ymchwilwyr yn y Gwyddorau Cymdeithas, ond gall fod o ddiddordeb i eraill hefyd.
Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg yn unig.
Rhannwch gyda'ch cydweithwyr ac archebwch drwy Eventbrite.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2018