Lleisiau pêl-droedwyr: gamblo a dibyniaeth mewn pêl-droed

Yn ddiweddar mae adroddiadau ar y cyfryngau wedi rhoi sylw i broblemau gamblo ymysg lleiafrif o bêl-droedwyr proffesiynol.  Mae ymchwil newydd  a gohoeddir yn Addiction Research wedi dangos sut y gall rhai chwaraewyr fynd i drafferthion gyda'u gamblo a beth y gellir ei wneud i'w helpu i chwilio am driniaeth. 

Cafodd pêl-droedwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol, sydd wedi wynebu problemau gamblo, eu cyfweld fel rhan o ymchwil gan brifysgolion Bangor, Llundain a Rhydychen.  Clywodd yr ymchwilwyr yn uniongyrchol gan y chwaraewyr beth oedd eu profiadau o gamblo a sut a pham y daeth gamblo'n broblem iddynt. 

Meddai'r Athro Robert Rogers o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor:   "Mae'n anarferol medru eistedd i lawr efo pêl-droedwyr sydd wedi cael y problemau yma a chlywed sut y datblygodd eu trafferthion efo gamblo a beth oedd effaith hynny ar eu gyrfaoedd a'u bywydau teuluol."

"Dylai gwell dealltwriaeth o sut mae problemau gamblo'n datblygu mewn pêl-droedwyr ac, efallai, mewn pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon eraill, alluogi gweithwyr proffesiynol i helpu eraill sy'n mynd i sefyllfaoedd tebyg, a helpu'r cyrff proffesiynol i ddatblygu dulliau ataliol a thriniaethau fel y rhai sydd i'w cael yn Sporting Chance."

Darganfu'r ymchwilwyr bod y pêl-droedwyr a gafodd eu holi yn eu hastudiaeth wedi dechrau gamblo fel gweithgaredd hamdden gydag eraill. Hefyd roedd cael llwyddiant wrth gamblo yn debyg i ryw raddau i gyffro llwyddiant ar y cae pêl-droed.  Fodd bynnag, roedd gamblo'n tueddu i fynd yn broblem i'r chwaraewyr hyn wrth iddynt wynebu'r holl bwysau a welir yn y gêm broffesiynol.  Roedd chwaraewyr a oedd yn mynd i drafferthion gyda gamblo'n tueddu i gamblo ar eu pennau eu hunain fel ffordd o ymdopi â rhai o sialensiau mympwyol y gêm - megis anaf hir-dymor, peidio â chael eu cynnwys yn y tîm, cael eu rhyddhau'n fuan o gontract neu gael ei trosglwyddo i glwb ymhell oddi wrth deulu a ffrindiau. 

Tynnodd yr ymchwil sylw hefyd at rai o'r pethau sy'n rhwystro rhai rhag chwilio am help. Roedd y rhain yn cynnwys amharodrwydd i gyfaddef iddynt eu hunain bod eu gamblo wedi mynd yn broblem, ac ofn y byddai dweud am eu trafferthion wrth eu staff hyfforddi'n achosi iddynt golli eu lle yn y tîm cyntaf.  Ar y llaw arall, roedd clywed chwaraewyr eraill yn sôn sut y cawsant hwy help yn arbennig o effeithiol o ran ysgogi chwaraewyr i geisio cymorth. 

Ychwanegodd Yr Athro Rogers: "Dangosodd ein hymchwil nifer o ffactorau a allai leihau'r risg i bêl-droedwyr fynd yn gaeth i gamblo.

"Mae hyn yn cynnwys yr angen i staff a hyfforddwyr mewn clybiau pêl droed fod yn ymwybodol o ddylanwad ymddygiad cyfoedion ar eraill, yn ogystal â'r dylanwad mawr y mae ymddygiad gamblo chwaraewyr hŷn yn ei gael ar chwaraewyr iau drwy osod safonau ymddygiad cymdeithasol.

Ffactor bwysig arall i'w hystyried yw sut mae clybiau'n delio â chwaraewyr sydd wedi colli eu lle yn y tîm cyntaf oherwydd anaf neu chwarae'n wael, yn ogystal â'r chwaraewyr hynny sydd ar fenthyg i glybiau eraill ac sy'n aml yn teimlo'n ynysig."

Meddai Colin Bland, Prif Weithredwr Sporting Chance Clinic:

"Rydym ni yma yn Sporting Chance yn ymfalchïo yn ein cyswllt ag ymchwil Dr Rogers gan ei fod wastad yn beth da cael mewnwelediad pellach i’r ffactorau hynny sy’n gyrru chwaraewyr pêl-droed at fod â phroblem gamblo. Rydym ni, ar y cyd â’r PFA (Professional Footballers’ Association) wedi bod yn cynnig datrysiadau ynghylch y broblem hon ers pymtheg mlynedd ac fe gaiff unrhyw wybodaeth sy’n arwain at arfer gwell groeso mawr yma.”

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016