Yr hyn y gall adar môr ei ddweud wrthym am y llanw

Llurs: Llun Derren Fox/ RSPBLlurs: Llun Derren Fox/ RSPBPan osododd y Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar (RSPB) dagiau ar llursod (razorbills), eu nod oedd dilyn hynt eu hymddygiad a'u symudiadau ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Datgelodd data o'r tagiau fod yr adar môr hyn yn treulio llawer o'u hamser yn segur ar wyneb y môr yn ystod y nos. "Gwelsom hyn fel cyfle i ailddefnyddio'r data a phrofi a oedd yr adar efallai'n drifftio gyda cherrynt y llanw," meddai Matt Cooper, sydd â gradd Meistr mewn Eigioneg o Brifysgol Bangor.  Mae'n ymddangos eu bod, yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad Cooper sy'n dangos y potensial o ddefnyddio adar môr i fesur cerrynt yn y moroedd.  Cyhoeddir y canlyniadau heddiw yn Ocean Science, cyfnodolyn yr European Geosciences Union.

Gallai defnyddio adar môr i roi gwybodaeth i ni am y llanw fod yn arbennig o ddefnyddiol i'r diwydiant ynni adnewyddadwy môr.  Mae cynhyrchu ynni llanw yn gofyn am wybodaeth fanwl am gyflymder cerrynt.  Yn draddodiadol, mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn mesur llanw trwy ddefnyddio radar neu angorau a bwiau gydag offer gwyddonol arnynt. Fodd bynnag, mae'r dulliau sgowtio hyn yn heriol ac yn ddrud. Os gallai adar môr wedi'u tagio ddarparu data llanw dros ardal fawr, gallent helpu i nodi safleoedd a fyddai'n ffynonellau da o ynni llanw.

Roedd goruchwylwyr Cooper yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn gwybod am ei ddiddordeb mewn ynni llanw a chasglu data, felly awgrymwyd iddo edrych ar ddata adar môr a gasglwyd gan yr RSPB i weld a fyddai'n bosibl tynnu gwybodaeth am y llanw ohono. Ychydig flynyddoedd ynghynt, o 2011 i 2014, roedd tîm RSPB wedi gosod tagiau GPS ar llursod ar Ynys Seiriol, Gogledd Cymru, i astudio eu dosbarthiad a'u hymddygiad bridio a bwydo. Mae'r adar môr du a gwyn hyn, sy'n debyg i balod a gwylogod, yn dod i diroedd arfordirol yn unig i fridio. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser ar y môr, yn chwilio am fwyd neu'n gorffwyso ar wyneb y môr.

Roedd y data a gasglwyd pan oedd yr adar yn eistedd ar wyneb y môr am oriau maith yn ddiddorol o ran ymddygiad adar, ond gwelodd ymchwilwyr Prifysgol Bangor ddefnydd posibl arall iddo. "Fe wnaethom gymryd data a gafodd ei anwybyddu o'r astudiaeth wreiddiol a'i gymhwyso i brofi rhagdybiaeth mewn maes ymchwil gwahanol," meddai Cooper. "Cyn belled ag y gwyddom, y papur hwn yw'r cyntaf i ddisgrifio'r defnydd o adar môr wedi'u tagio ar gyfer mesur cerrynt o unrhyw fath," meddai'r ymchwilwyr yn eu hastudiaeth yn Ocean Science.

Map yn dangos symudiad y llursod wedi eu tagioMap yn dangos symudiad y llursod wedi eu tagioRoedd y tagiau GPS ar y gweilch y penwaig yn cofnodi eu safle bob 100 eiliad. Gyda set o safleoedd ac amser hysbys rhwng pob un ohonynt, gallai'r gwyddonwyr gyfrifo cyflymder a chyfeiriad symudiadau'r adar. Pan oedd yr haul wedi machludo a'r awyr yn dywyll, roedd yr adar yn treulio cyfnodau hir yn gorffwyso ar wyneb y môr, gan ddrifftio'n oddefol gyda'r cerrynt.  "Ar yr adegau hyn, byddai'r newid yn eu safleoedd yn adlewyrchu symudiad dŵr ar wyneb y môr," meddai Cooper.

Gyda chyflymderau o fwy nag 1 metr yr eiliad ar gyfartaledd, mae'r cerrynt llanw yn y rhan o Fôr Iwerddon y canolbwyntiodd yr ymchwilwyr arni yn gyflym iawn, yn gyflymach nag y gall llursod badlo, ond yn llawer arafach na chyflymder yr adar pan maent yn hedfan.  Roedd hyn yn golygu y gallai'r tîm dynnu allan yr amseroedd pan oedd yr adar yn hedfan.  Yn ogystal, dangosodd y data wedi'i hidlo bod cyfeiriad yr adar pan oeddent yn drifftio yn newid pan oedd disgwyl i gerrynt yn yr ardal newid o drai i lanw ac i'r gwrthwyneb, ar adegau o lanw isel a phen llanw. Felly, gallai'r tîm fod yn sicr eu bod yn tracio cyflymder a chyfeiriad cerrynt y môr yn hytrach na symudiadau annibynnol yr adar.

Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio adar môr i fesur cerrynt llanw. "Mae'n rhaid inni gofio bod yr adar hyn yn ymddwyn yn naturiol ac ni allwn bennu ble maent yn mynd," meddai Cooper. Ond mae'r astudiaeth Ocean Science yn dangos bod potensial i'r dull rhad hwn ddarparu gwybodaeth hanfodol am y llanw dros ardal eang. Drwy astudio adar môr eraill wedi'u tagio, fe allem ddysgu mwy am ein cefnforoedd, yn enwedig mewn rhanbarthau mwy anghysbell lle mae'n her i gasglu data eigionegol. 

Mae Cooper hefyd yn gobeithio y gall y dull leihau costau cynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw, "sydd wedi bod yn rhwystr i ddatblygiad y diwydiant hwn y mae angen mawr amdano."

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2018