Coronavirus (Covid-19) Information

TAR Cynradd gyda SAC (3-11) yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Overview

Course facts

  • Name: TAR Cynradd gyda SAC (3-11)
  • Qualification: yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)
  • Duration: Blwyddyn

UCAS Codes: 
PGCE Primary 3D8R
TAR Cynradd (3-11) 3D8S

caban

Bwriad y rhaglen TAR Cynradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu’n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant drwy'r Gam Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.  Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.

Course content is for guidance purposes only and may be subject to change.

Course Content

Fframwaith / Cynnwys y Cwrs (sut y caiff y cwrs ei ddysgu a'i asesu, rhestr o fodiwlau ac/neu ddisgrifiadau o fodiwlau). 

  • Astudiaethau Proffesiynol, Pedagogaidd a Chraidd mewn Addysg Gynradd
  • Astudiaethau Pwnc mewn Addysg Gynradd (yn cynnwys ymchwil weithredol agos at ymarfer)
  • Profiad Ysgol

Entry Requirements

Mynediad yn 2020:

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig ag addysg gynradd.
  • Gradd B/Gradd 5 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. Lle ceir yr hyn sy'n cyfateb i radd B mewn naill ai Lenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael o leiaf radd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfatebol yn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf.
  • Rhaid cael gradd B/gradd 5 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
  • Bydd ymgeiswyr sydd â Gradd C mewn mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn gymwys i wneud cais a dechrau'r cwrs. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael cyfle a chefnogaeth i sefyll profion cywerthedd i radd B TGAU yn ystod y rhaglen. Ni ddyfernir SAC nes bod y myfyriwr wedi llwyddo yn y prawf cywerthedd. Derbynnir llawer o gymwysterau hefyd fel rhai cyfwerth â gradd B mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg - cysylltwch â ni am wybodaeth.  
  • TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.   
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.   
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad iechyd.

Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.  Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

International Students

For information and further detailed guidance on entry requirements for International Students, including the minimum English Language entry requirement, please visit the Entry Requirements by Country pages on the International Education Centre section of our website.

Ask the IEC for assistance...

If you want advice or a general chat about what’s available contact the International Education Centre on +44 (0) 1248 382028 or email international@bangor.ac.uk

Apply

Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.

Gwneir ceisiadau i raglenni TAR ar lein trwy UCAS Teacher Training (UCAS TT).

Careers and Employability

Mae TAR Cynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithredu fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddogaethau o fewn addysg a datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hon yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion. 

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig, Canolfannau Awyr Agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n benodol i'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi'i llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Funding

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Atodiad sylfaenol

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn unig (arbenigedd pwnc gradd er mwyn codi safonau mewn rhifedd a llythrennedd a chefnogi'r gwyddorau)

Gradd 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

 £3,000

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Further information

Contact us

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Ffôn : +44 (0) 1248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Other Courses

(leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

PGCE Secondary leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Next steps