Coronavirus (Covid-19) Information

TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Overview

Course facts

  • Name: TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol
  • Qualification: TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)
  • Duration: Blwyddyn

caban

Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC yn dod yn ymarferwyr effeithiol, brwdfrydig ac adfyfyriol Addysg Grefyddol. Y prif bwyslais fydd hyrwyddo dealltwriaeth glir o'r hyn a olygir gan Addysg Grefyddol ragorol, a datblygu sgiliau hyfforddeion wrth gymhwyso'r nodweddion hyn i addysgu dosbarth.

Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.  Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. 

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.

Course content is for guidance purposes only and may be subject to change.

Course Content

Bydd AC yn deall ac yn cymhwyso nodau ac amcanion cyfredol Addysg Grefyddol gan alluogi 'disgyblion i archwilio ystod o gwestiynau athronyddol, diwinyddol, moesegol ac ysbrydol mewn modd adfyfyriol, dadansoddol, cytbwys sy'n ysgogi holi a dadlau. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ddeall ymchwil dynoliaeth am ystyr, agweddau cadarnhaol dealltwriaeth aml-ffydd / amlddiwylliannol a dealltwriaeth y disgyblion eu hunain o fywyd a chrefydd a'u hymatebion iddynt.

Bydd AC yn archwilio ystod eang o faterion a phynciau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu Addysg Grefyddol yn effeithiol, er enghraifft: cyd-destun; addysgeg gyfredol; cynllunio gwersi effeithiol; asesu a chyrhaeddiad; cynhwysiad; rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol; sgiliau meddwl; creadigrwydd; addysg am yr Holocost; amlsynhwyraidd; safbwyntiau aml-ffydd.

Bydd yr AC yn datblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion crefyddol, diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru. Mae astudio'r Cwricwlwm Cymreig trwy lens Addysg Grefyddol yn helpu disgyblion i ddeall a dathlu'r profiad o fyw a dysgu yng Nghymru, deall eu ymdeimlad eu hunain o Gymreictod a theimlo perthynas gadarnach â'u cymuned leol. Mae hefyd yn meithrin dealltwriaeth o Gymru sy'n edrych allan ac yn rhyngwladol, gan hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang a phryder am ddatblygiad cynaliadwy.

Bydd hyfforddeion a thiwtoriaid yn gwneud defnydd helaeth o'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Bangor, gan alluogi tiwtoriaid i ddangos sut y dylid defnyddio arteffactau ac AC i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ystod helaeth o adnoddau dysgu yng nghyd-destun Cymru. Bydd y modiwl yn ymestyn sgiliau deallusol a phersonol, gan alluogi AC i fwynhau'r proffesiwn llawn boddhad ac ysgogol a geir trwy ddysgu Addysg Grefyddol yn llwyddiannus.

Entry Requirements

Ar gyfer mynediad yn 2020:

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
  • Gradd B/Gradd 5 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. Lle ceir yr hyn sy'n cyfateb i radd B mewn naill ai Lenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael o leiaf radd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfatebol yn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf.
  • Rhaid cael gradd B/gradd 5 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
  • Bydd ymgeiswyr sydd â Gradd C mewn mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn gymwys i wneud cais a dechrau'r cwrs. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael cyfle a chefnogaeth i sefyll profion cywerthedd i radd B TGAU yn ystod y rhaglen. Ni ddyfernir SAC nes bod y myfyriwr wedi llwyddo yn y prawf cywerthedd. Derbynnir llawer o gymwysterau hefyd fel rhai cyfwerth â gradd B mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg - cysylltwch â ni am wybodaeth.  
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.   
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad iechyd.

Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.  Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).

International Students

For information and further detailed guidance on entry requirements for International Students, including the minimum English Language entry requirement, please visit the Entry Requirements by Country pages on the International Education Centre section of our website.

Ask the IEC for assistance...

If you want advice or a general chat about what’s available contact the International Education Centre on +44 (0) 1248 382028 or email international@bangor.ac.uk

Apply

Noder bod ymgeisio ar gyfer cwrs TAR yn wahanol i'r drefn ymgeisio am gyrsiau Ôl-radd eraill Prifysgol Bangor.

Dylid ymgeisio am gwrs TAR trwy wefan UCAS Teacher Training (UCAS TT).

Careers and Employability

Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Funding

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.

Y pynciau blaenoriaeth yw:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Further information

Contact us

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Ffôn : +44 (0) 1248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Other Courses

(leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

PGCE Secondary leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Next steps