AWDURON GWADD Y LLECHAN: CATRIN KEAN
- Lleoliad:
- Darlithfa Cemlyn Jones, Pontio, Prifysgol Bangor
- Amser:
- Dydd Iau 24 Chwefror 2022, 18:00–19:30
- Cyswllt:
- Yr Athro Zoe Skoulding: z.skoulding@bangor.ac.uk
Cyflwynir y darlleniad hwn gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.
Mae nofelydd arobryn yn dod i Fangor i drafod ei gwaith
Bydd y nofelydd Catrin Kean, sy’n byw yn Ne Cymru, yn trafod ei nofel gyntaf, Salt, yn Pontio nos Iau, Chwefror 24ain am 6yp. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ac yn rhan o gyfres newydd o awduron gwâdd Y Llechan, a gyflwynir gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.
Mae Salt yn seiliedig ar stori hen nain a thaid Kean a briodwyd ar ddiwedd yr 1800au. Cogydd llong o Barbados oedd ei hen daid ac aeth ei hen-nain i’r môr gydag ef. Dywedodd Kean: “Mae gennyf ei dystysgrif marwolaeth sydd, ar wahân i newid enw, yn union fel y mae wedi’i ysgrifennu yn y llyfr. Mae pam y bu farw yn y ffordd y gwnaeth yn ddirgelwch teuluol trist ac rwyf wedi meddwl amdano ar hyd fy oes, a dechreuodd y broses tu ôl i’r nofel gyda hynny.”
Yn 2021 enillodd Salt Wobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Gwobr Dewis y Bobl Wales Arts Review, a gwobr gyffredinol Llyfr y Flwyddyn Cymru.
Meddai Kean: “Roedd yn annisgwyl iawn ac yn swreal ennill Llyfr y Flwyddyn. Fel arfer, mae'r enillydd yn darganfod mewn digwyddiad crand ond oherwydd Covid ni chafwyd cyfarfod. Cefais gyfweliad Zoom ynglyn â bod ar y rhestr fer a dywedodd y cyfwelydd wrthyf fy mod wedi ennill ar ôl i ni orffen siarad. Yn gyntaf dywedodd fod Salt wedi ennill y categori ffuglen, yna pan oedd hwnnw wedi suddo ychydig dywedodd wrthyf fy mod wedi ennill llyfr cyffredinol y flwyddyn, ac yn olaf ei fod wedi ennill gwobr Dewis y Bobl. Doeddwn i wir ddim yn credu dim ohono! Y peth gwaethaf oedd fod rhaid i mi gadw’r gyfrinach am oddeutu chwech wythnos!”
Bydd dilynwyr ei gwaith yn falch iawn o glywed bod Kean ar hyn o bryd yn gweithio ar ei hail nofel a fydd yn canolbwyntio ar yr un teulu ond yn cael ei hadrodd o safbwynt cymeriad gwahanol.
Ar gyfer unrhyw ddarpar awduron, mae Kean yn eu cynghori i yrru gymaint o straeon byrion a/neu cherddi i gystadlaethau a blodeugerddi a sydd bosib.
Meddai: “Mae’n wych pan fydd eich gwaith yn cael ei dderbyn ond hefyd, i mi, mae cael dyddiad cau o gymorth mawr. Ymunwch â grŵp ysgrifennu, ewch i nosweithiau meic agored a digwyddiadau eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod ar restrau postio Llenyddiaeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd. Hefyd, defnyddiwch eich cyd-awduron. Darllenwch waith awduron eraill a gofynnwch iddyn nhw ddarllen eich gwaith chi. Cyn Covid, byddai grŵp o awduron a minnau’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod gwaith ein gilydd, roedd yn amhrisiadwy. Ond hefyd, gadewch i chi'ch hun ysgrifennu ‘rubbish’ ! Rwy'n gwneud fersiwn o dudalennau'r bore nad ydynt i'w dangos i neb; maen nhw er mwyn ymarfer fy nghyhyrau ysgrifennu.”