Cylch Ieithyddiaeth
Gwleidyddiaeth, rhagenwau, a'r chwaraewyr: Archwilio sut mae chwaraewyr gemau fideo yn ymateb i gynnwys cymeriad trawsryweddol yn World of Warcraft
- Lleoliad:
- Darlithfa 3 (Prif Adeilad y Celfyddydau) a Teams ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 23 Chwefror 2022, 16:00–17:00
Dr Frazer Heritage - Birmingham City University
Er i World of Warcraft gael ei ryddhau yn 2004, ni chyflwynodd y gêm ei gymeriad trawsryweddol cyntaf nes 2020 (WoWHead, 2020). Mae'r papur hwn yn archwilio sut ymatebodd chwaraewyr i'r cymeriad newydd hwn - o'r enw Pelagos. Rwy'n dadansoddi fforymau WoW swyddogol i archwilio faint o chwaraewyr oedd o blaid/yn erbyn cynnwys Pelagos, sut y lluniwyd y safbwyntiau hyn, a sut mae’r sawl sy’n gadael sylwadau yn rhyngweithio â'i gilydd. Mae'r data'n dangos ymateb syfrdanol yn erbyn trawsffobia a chefnogaeth aruthrol i gynnwys cymeriad trawsryweddol. Dadleuodd y rhai a oedd yn erbyn cynnwys Pelagos eu bod o’r farn honno oherwydd gwrthwynebiadau i gywirdeb gwleidyddol, gan ddadlau y dylai gemau cyfrifiadurol aros yn wleidyddol niwtral. Mewn cyferbyniad, dadleuodd y rhai a oedd o blaid cynnwys Pelagos fod gemau fideo yn wleidyddol wrth natur. Edrychaf hefyd ar y rhagenwau ail berson a ddefnyddir ar gyfer Pelagos a nodaf mai anaml iawn y caiff ei gyfeirio ato wrth y rhyw anghywir. Rwy’n dadlau bod gan ymateb mor gadarnhaol oblygiadau ar gyfer ymchwil i Astudiaethau Disgwrs Beirniadol ac i gwmnïau gemau fideo.