Ein Hymchwil

Meysydd Ymchwil

Mae academyddion yr adran yn gweithio mewn amryw o feysydd, gan archwilio diwylliant, hunaniaeth ac iaith mewn cyd-destunau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn fras, mae gennym arbenigedd mewn llenyddiaeth, llên deithio, cyfieithu, ffilm, perfformio, diwylliannau gweledol, diwylliant poblogaidd, newid cymdeithasol-wleidyddol a chyfnewid rhwng diwylliannau. Gweithiwn yng nghyd-destun disgyblaethau iaith-benodol ond mae cryn dipyn o arbenigedd trawsddisgyblaethol hefyd ym meysydd ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, llên deithio, ecofeirniadaeth, diwylliant poblogaidd, trosglwyddo diwylliannol, a chyfieithu a newid cymdeithasol-wleidyddol. O fewn y meysydd bras hynny, mae academyddion yn ymchwilio i gwestiynau pwysig ar bynciau gan gynnwys y gwaddol ôl-wladychol; gwleidyddiaeth y cof; pŵer a thrafodaeth feirniadol; hunaniaethau cenedlaethol; trosedd a chynrychioliad o drosedd; mudo ac alltudiaeth; symudedd ac ansymudedd; diwylliannau materol a thestunau materol; a chyfnewid syniadau ymhlith diwylliannau. Oherwydd amrywiaeth yr arbenigedd sydd yn yr adran gallwn gynnig goruchwyliaeth ryngddisgyblaethol yn ogystal â goruchwyliaeth bwnc-benodol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd.

Ymchwil mewn ieithoedd unigol

Mae’r canlynol yn rhoi blas i chi o’r ymchwil ym mhob maes iaith:

Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg

Ym maes a Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg, mae arbenigedd neilltuol ym maes astudiaethau ôl-wladychol, gan archwilio effaith gorffennol trefedigaethol Ffrainc ar y gymdeithas fodern trwy’r cof, mudo, ffilm, chwaraeon a diwylliant poblogaidd. .

Astudiaethau Sbaenaidd

Yn Astudiaethau Sbaenaidd, mae'r ffocws ar gyrion Iberia ac mae arbenigedd mewn hunaniaeth a diwylliant Galisaidd, Catalaneg a Basgeg. Pwysleisir agweddau ar alltudiaeth, mudo a symudedd, yn ogystal â rhywedd, gwleidyddiaeth a hunaniaethau lleiafrifol.

Astudiaethau Almaeneg

Mewn Astudiaethau Almaeneg mae arbenigedd mewn testun, perthnasedd cymharol a pherfformrwydd, yn ogystal ag ymchwil arloesol a arweinir gan ymarfer mewn perfformiad. Yn ogystal, mae ffocws hirsefydledig ar lên deithio, trosglwyddo diwylliannol a diwylliant y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Astudiaethau Eidalaidd

Mewn Astudiaethau Eidalaidd, mae pwyslais ar ddiwylliannau De'r Eidal, gan gynnwys y Maffia, a llenyddiaeth, diwylliant a hanes cyfoes yr Eidal.

Astudiaethau Tsieineaidd

Mewn Astudiaethau Tsieineaidd mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar y modd y caiff Tsieina ei chynrychioli yng nghyfryngau Prydain.

Astudiaethau Cyfieithu

Mewn Astudiaethau Cyfieithu, mae’r pwyslais ar rôl cyfieithu mewn trafodaethau rhyngddiwylliannol, yn enwedig o ran ieithoedd lleiafrifol, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â grym, rhywedd a rôl cyfieithu mewn cymdeithas.

Projectau Ymchwil Diweddar

Dyma rhai enghreifftiau o brojectau diweddar a arweinid gan academyddion yr adran:

Dyma rhai enghreifftiau o brojectau diweddar a arweinid gan academyddion yr adran:

Main arts quad turret & tree

Ein Hymchwil Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru

Mae gennym gryfder arbennig ym maes Astudiaethau Galisaidd ac rydym yn cynnal y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru. Dyma ganolfan sydd gyda’r gorau yn y byd o ran ymchwil. Fe’i, sefydlwyd ym Mhrifysgol Bangor yn 2006 i hyrwyddo a chyfnerthu ymchwil ac addysgu astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru’n manteisio ar safle amlwg Prifysgol Bangor ym maes Astudiaethau Iberaidd a’r enw da sydd ganddi’n rhyngwladol fel canolfan ymchwil mewn ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, astudiaethau Celtaidd a dwyieithrwydd. Mae’n cynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf mewn meysydd megis astudiaethau symudedd, ffilm Galiseg, gwaith gan ferched Galisia ac ecofeirniadaeth. Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Galiseg trwy gydol y flwyddyn.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?