Mwy am yr Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern

BA Ieithoedd Modern

Trwy’r BA Ieithoedd Modern, rydym yn cynnig un o gyrsiau gradd mwyaf hyblyg y Deyrnas Unedig. Cewch astudio hyd at dair iaith, gan ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Tsieinëeg, a gallwch deilwra eich dewis o fodiwlau i'ch diddordebau gyda modiwlau dewisol sy'n archwilio llenyddiaeth, ffilm, perfformio, hanes, gwleidyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol. Rydym hefyd yn cynnig llawer o gyfuniadau â phynciau eraill, a modiwlau mewn Iseldireg a Galiseg.

BA Ieithoedd Modern

Myfyrwraig yn astudio a darllen yn y llyfrgell

Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern Ieithoedd i Bawb

Yn ogystal â'r brif gyrsiau, rydym yn cynnig modiwlau sy'n caniatau i fyfyrwyr ledled y brifysgol ddatblygu eu sgiliau iaith drwy gydol eu hamser ym Mangor drwy ddosbarthiadau’r rhaglen Ieithoedd i Bawb. Gellir cymryd y modiwlau hynny am gredyd neu fel opsiwn allgyrsiol ac maent yn ffordd wych o ennill sgiliau iaith ychwanegol a gwella eich cyflogadwyedd.

Myfyriwr mewn ystafell ddosbarth

Ein Cyfleusterau

Rydym wedi ein lleoli yng nghanol y brifysgol yn adeilad newydd y Celfyddydau ac mae gennym nifer o gyfleusterau i fyfyrwyr eu defnyddio gan gynnwys mannau astudio pwrpasol yn y Ganolfan Iaith, ystafelloedd adnoddau iaith-benodol y gellir eu harchebu, llyfrgell ffilmiau a meddalwedd cyfieithu arbenigol. Mae gennym hefyd gymdeithas i’r myfyrwyr a honno’n un weithgar iawn, LangSoc, sy'n trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol sy’n ymwneud ag iaith, a chynllun Cyfaill Iaith sy'n dod â myfyrwyr cyfnewid ynghyd â'n myfyrwyr ein hunain fel y gallant helpu ei gilydd wella eu sgiliau iaith. Mae’r myfyrwyr hefyd yn elwa o gymryd rhan yn ein prosiect mentora, trwy weithio gyda phlant mewn ysgolion lleol i’w hannog i ddysgu ieithoedd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?