Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir a nodedig o ragoriaeth mewn dysgu Ieithoedd Modern ers ei sefydlu yn 1884. Dechreuasom gyda Ffrangeg ac Almaeneg ac ehangodd ein portffolio dros y blynyddoedd i gynnwys Sbaeneg, Eidaleg, Iseldireg, Galiseg ac, yn fwyaf diweddar, Tsieinëeg.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar draddodiad cadarn a di-dor, a'r nod yw paratoi ein myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer y byd cyfoes amlieithog sydd ohoni.
Cael eich dysgu gan arbenigwyr o fri rhyngwladol
Mae’r adran yn rhan o dirwedd ddiwylliannol naturiol ddwyieithog y gogledd, a daw â staff a myfyrwyr o bob cwr o’r byd ynghyd yn un gymuned gefnogol. Mae deall diwylliannau gwahanol yn rhan o'n DNA ac adlewyrchir hynny yn yr amrywiol opsiynau diwylliannol.
Mae cyfathrebu a dealltwriaeth ryngddiwylliannol yn bwysicach nag erioed heddiw. Dyna pam mae dysgu iaith nid yn unig yn golygu meistroli gofynion technegol ieithoedd, mae hefyd yn ymwneud â deall diwylliant y gwledydd a/neu’r rhanbarthau lle siaredir yr ieithoedd hynny. Yn ogystal â meithrin eich gwybodaeth am ddiwylliant yn ein modiwlau iaith craidd, rydym hefyd yn cynnig amryw o opsiynau diwylliannol sy’n cwmpasu llenyddiaeth, ffilm, perfformio, hanes, gwleidyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol. Mae ein staff yn adnabyddus yn rhyngwladol yn y meysydd hyn, a thrwy gyflwyno ffrwyth eu hymchwil arbenigol yn y dosbarth, maen nhw'n sicrhau bod y myfyrwyr yn cael deunyddiau blaengar a'u bod yn cael eu paratoi'n llawn i wynebu gofynion y byd cyfoes, modern.
Byddwn yn eich helpu chi ddeall diwylliannau eich dewis ieithoedd yn eu cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang, yn ogystal â'ch galluogi i ymdrwytho yn y pynciau sydd o ddiddordeb i chi. Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi deilwra eich dewis modiwl i weddu i'ch diddordebau chithau. Yn ogystal â dewis o blith yr amrywiol fodiwlau diwylliannol sydd ar gynnig, cewch gyfle i weithio'n annibynnol ar bynciau yr ydych yn eu mwynhau trwy ymchwil o dan gyfarwyddyd. Gallai hynny fod ar ffurf traethawd hir, project iaith, casgliad y wasg neu bortffolio hunanastudio.