Gwybodaeth am yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau
Ydych chi eisiau astudio mewn awyrgylch sy'n fywiog, yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn broffesiynol. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn arbenigo mewn amryw o gelfyddydau creadigol gan gynnwys:
- Cerddoriaeth
- Ffilm
- Cyfryngau a chyfathrebu digidol
- Astudiaethau perfformio
- Ymarfer creadigol a'r cyfryngau
- Dylunio a chynhyrchu gemau
- Ysgrifennu proffesiynol a newyddiaduraeth
Ynghyd â'r rhyddid i ddatblygu eich syniadau gwreiddiol eich hun, bydd cefnogaeth fanwl Bangor yn eich galluogi i ganfod ffyrdd newydd ffres a llawn dychymyg o ymdrin â'ch pwnc gan eich paratoi ar gyfer gweithredu'n gynaliadwy a phroffesiynol yn y gweithle modern.
Cefnogwn y myfyrwyr yn eu astudiaethau gyda gofal bugeiliol rhagorol a sylwadau gofalus a phenodol am eu gwaith. Cewch eich annog i ddilyn eich diddordebau creadigol a datblygu sgiliau o safon uchel.
Rhagoriaeth academaidd
Mae gennym draddodiad maith o ragoriaeth academaidd ac mae ein cyrsiau'n unigryw o ran amrywiaeth y dewis sydd ar gael. Mae’r Ysgol yn cynnig mwy na dim ond hyfforddiant sgiliau, gan anelu at sicrhau bod ei graddedigion yn gallu bod yn arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn eu meysydd.
Gwneir y dysgu’n bennaf mewn grwpiau bach, gan gynnig amgylchedd dysgu ysgogol a chynhaliol.
Cyfleusterau arbenigol
Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys canolfan gyfryngau sy'n cynnwys yr holl offer priodol, gydag ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu, offer y cyfryngau a'r cyfryngau digidol. Mae'r cyfleusterau a'r adnoddau cerddorol yn cynnwys stiwdios ar gyfer cyfansoddi a recordio electronig, neuaddau cyngerdd, mannau ac ystafelloedd ymarfer, llyfrgell gerdd ac offerynnau.
Perfformiadau Cerddorol
Mae ein dull o ddysgu cerddoriaeth yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n rhoi cyfle i berfformio cyfansoddiadau'r myfyrwyr, a rhyngweithio rhwng cerddoriaeth fyw ac electroneg, a pherfformio hanesyddol ei naws sy'n deillio o'n gweithgaredd cerddolegol. Yn ogystal, ceir ystod eang o weithgareddau allgwricwlaidd, yn cynnwys cerddorfeydd, corau, band pres, band jas, band cyngerdd a grwpiau opera a theatr gerdd.
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae'r iaith Gymraeg yn rym bywiog ym Mangor, a ni yw'r unig brifysgol lle mae'n bosib astudio eich gradd Gerddoriaeth yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg. Hyd yn oed os nad ydych yn medru siarad Cymraeg, gellwch fanteisio ar ein harbenigedd byd-enwog ym maes astudio cerddoriaeth Gymraeg, yn anad dim drwy'r adnoddau yn yr Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig a'r Archif Bop Gymraeg.