Newyddion: Hydref 2018

CodiSTEM (25/10/18)

Over 600 school pupils from North Wales attended the Codi STEM event held at Coleg Llandrillo (Grwp Llandrillo Menai) on Thursday, 25thOctober 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.

Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Cynaeafu data amgylcheddol gydag ap

Mae economi  Cambodia ymysg yr economïau sydd yn datblygu gyflymaf yn y byd. Mae’r wlad yn symud o economi wledig i un ddiwydiannol a dinesig  yn gyflym iawn, ond mae’r llywodraeth hefyd, yn ei hawydd i ddatblygu, yn awyddus i fod yn gynaliadwy ac i beidio â cholli adnoddau naturiol gwerthfawr.

Bydd ymchwil newydd gan wyddonwyr amgylcheddol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Efrog Newydd (UDA) a chorff anllywodraethol yn  Cambodia, Keosothea Nou (Cymdeithas Datblygu Cymunedol, Cambodia) yn rhoi golwg gyffredinol ar adnoddau amgylcheddol y wlad, a sut y cânt eu defnyddio gan unigolion gwahanol.  Bydd y wybodaeth yn helpu’r llywodraeth i ddatblygu polisïau cynaliadwy i’r wlad rymus hon. Mae hwn yn un o 13 project newydd a gyllidir drwy gais ESRC Transformative Research.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

Edible crabs won't cope with the effects of climate change on seawater – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nia Whiteley o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

Cymrodoriaeth rhyngwladol o bwys i ymchwilydd addawol lleol

Mae ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth Fyd-eang Marie Sklodowska Curie, a gyllidir drwy Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’r Gymrodoriaeth, sydd yn hyrwyddo symud rhyngwladol a chyfnewid gwybodaeth, yn galluogi Dr Karina Marsden o Fethesda i dreulio dwy flynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia, cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer blwyddyn olaf ei phroject ymchwil. Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth yn dilyn cais ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor a Melbourne.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Are electric fences really the best way to solve human-elephant land conflicts?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Liudmila Osipova, myfyrwraig doethurol ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi ei gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018

Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol

Mae myfyrwraig coedwigaeth o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol a gynhelir gan elusen sy'n cefnogi entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr neu'n raddedigion. Mae Jemima Letts, 21, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Effaith Cymdeithasol Tata am ei busnes Tree Sparks, menter gymdeithasol sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal ag amlygu bod swyddi o fewn y sector amgylcheddol yn ddichonadwy i bobl ifanc.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Tansanïa i fabwysiadu polisïau newydd i ddiogelu stociau pysgod

Mae Gweinyddiaeth Da Byw a Physgodfeydd Tansanïa yn bwriadu mabwysiadu argymhellion ar gyfer cadw'r amrywiaeth genetig unigryw o tilapia ar gyfer diogelwch bwyd.

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Sefydliad Earlham yn Norwich ac yn Tanzania Fisheries Research Institute (Tafiri), a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018

Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth

Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018