Angen tystiolaeth gadarn - gwyddonwyr yn mynnu bod angen mwy o wybodaeth cyn gwneud rhagor o benderfyniadau cadwraethol yn Awstralia

Dingo ym Mharc Cenedlaethol Kakadu, Tiriogaethau'r Gogledd, Awstralia.Dingo ym Mharc Cenedlaethol Kakadu, Tiriogaethau'r Gogledd, Awstralia.Mae'r ffordd y mae naturiaethwyr yn Awstralia yn rheoli dingos yn bwnc llosg yn y wlad ar hyn o bryd, ac wedi bod felly ers talwm.

Yn ogystal ag adeiladu ffens hwyaf y byd i gadw dingos allan o ardaloedd pori defaid Awstralia, mae'r cwestiwn a yw dingos yn brif ysglyfaethwyr (hynny yw, ysglyfaethwyr heb anifail arall yn eu hela)  wedi bod yn destun dadl ymysg cadwraethwyr.  Dadleuwyd i ba raddau y dylid rheoli dingos a'r effaith y mae rheoli niferoedd dingos yn ei chael ar rywogaethau anfrodorol megis cathod a llwynogod coch.  Mae'r rhain yn eu tro yn lladd nifer fawr o famaliaid brodorol llai Awstralia. 

Dadleuwyd a ddylid mynd ati'n fwriadol i ddifa dingos, ac i ba raddau y maent yn ddefnyddiol wrth ddiogelu anifeiliaid llai sydd o dan fygythiad trwy hela cathod mawr a llwynogod.   Tra bod gwasanaethau bywyd gwyllt Awstralia yn gwario miloedd ar ffyrdd eraill o reoli rhywogaethau anfrodorol, heb gael canlyniadau boddhaol, ceir tystiolaeth bod cynnal niferoedd y dingo o fudd i famaliaid llai.  Mae gan y wlad bolisi difa a gwenwyno sy'n gwneud i gynllun difa moch daear y DU edrych yn ddigon diniwed. 

Mae papur yn y Journal of Applied Ecology yn annog pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ddadl hon, sydd wedi bod yn boeth iawn ar brydiau, i roi eu gwahaniaethau barn o'r neilltu a mynd allan i'r maes eto i gasglu'r data cadarn sydd eu hangen i greu sylfaen gadarn ar gyfer camau rheoli.

Mae'r awdur arweiniol, Matthew Hayward, yn hanu o Awstralia ac yn ddarlithydd mewn Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor yng Nghymru.  Mae'n dweud cyn gwneud penderfyniadau pellach, y dylid casglu rhagor o ddata cadarn a chytuno ar fethodoleg.  Mae'n awgrymu bod y naill ochr a'r llall yn y ddadl yn defnyddio methodoleg wallus i gyfrif nifer yr ysglyfaethwyr "canolig", yn yr achos hwn, llwynogod coch a chathod gwyllt anfrodorol. 

Mae'r ysglyfaethwyr canolig hyn yn cael effaith ddybryd ar y mamaliaid brodorol llai, ac mae dadleuon llosg yn mynd ymlaen rhwng difa dingos a chaniatáu iddynt fyw, a thrwy hynny reoli niferoedd yr ysglyfaethwyr canolig.

Mae llawer o'r gwaith ymchwil gwyddonol sy'n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd yn seiliedig ar ganfod olion traed, heb ddilysu'r amcangyfrifon mewn gwirionedd.  Mae Hayward yn egluro bod y dull hwn yn annibynadwy: nid yw'r ffaith nad oes olion traed i'w canfod yn golygu nad yw rhywogaeth benodol yn bresennol, ac yn yr un modd ni fyddai pum set o olion traed cathod yn brawf bod pum cath wedi bod yno.

Mae methodoleg arall a ddefnyddir yn aml yn dibynnu ar arolygon llwybrau. Mae'r mwyafrif o brif ysglyfaethwyr yn dilyn llwybrau penodol, ond mae ysglyfaethwyr canolig yn eu hosgoi os yw prif ysglyfaethwyr o gwmpas, ond os ceir gwared â'r prif ysglyfaethwr mae'r ymddygiad hwn yn newid.

Mae Matt Hayward yn meddwl na ellir dibynnu ar y dull hwn o ragfynegi maint poblogaethau chwaith, ac mae'n egluro ei resymeg trwy ddefnyddio cyffelybiaeth, sef trafnidiaeth mewn dinasoedd, lle mae'r cerbydau'n brif ysglyfaethwyr a'r cerddwyr yn ysglyfaethwyr canolig.  Mae’n egluro fel a ganlyn: “Yn ystod oriau brig, byddai mynegai ar sail llwybrau yn dangos mai cerbydau oedd yr aelodau mwyaf niferus neu weithgar o'r gymuned, tra byddai pobl yn dod i'r golwg y tu allan i oriau brig.  Pe bai pobl yn peidio â defnyddio eu ceir am ddiwrnod, rhywbeth tebyg i gael gwared â'r prif ysglyfaethwyr, yn fuan iawn byddai bodau dynol yn dod i’r amlwg fel y boblogaeth fwyaf niferus yn y ddinas.

Mae Hayward a'i gydawdur Nicky Marlow o Ganolfan Ymchwil Woodvale  Adran yr Amgylchedd a Chadwraeth, Gorllewin Awstralia yn dadlau bod digonedd o bapurau sy'n rhoi tystiolaeth bod dibynnu ar fynegeion niferoedd heb eu dilysu wedi creu problemau cadwraethol mawr drwy'r byd.

Mae Hayward yn dadlau nad yw'r data a'r methodolegau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y ddadl yn ddigon cadarn.  Mae'r diffyg tystiolaeth gadarn yn golygu bod rheolwyr cadwraeth yn annhebygol o ddefnyddio dingos i reoli anifeiliaid canolig er lles mamaliaid bach.

Meddai: "Mae'r ddwy ochr yn y ddadl yn anwybyddu cwestiynau ynghylch canfod niferoedd. Pe baent yn defnyddio dulliau cadarn o ddadansoddi'r data, efallai na fyddent yn cael y ddadl hon o gwbl."

Mae Hayward yn awgrymu dulliau y gellid eu defnyddio i ddarparu tystiolaeth gadarnach o faint a rhyngweithio poblogaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014