Cartrefi Cymru yn defnyddio coed tân i gefnogi’r amgylchedd

Mae costau ynni cynyddol a hefyd ymwybyddiaeth gynyddol o ba mor anghynaliadwy yw tanwydd ffosil - sef nwy, olew a glo - wedi ysgogi mwy o ddiddordeb yn y defnydd o'n ffynhonnell hynaf o danwydd, sef coed tân. Ond mae cwestiynau pwysig yn dal heb eu hateb, megis faint o gartrefi yng Nghymru sydd mewn gwirionedd yn defnyddio coed tân? Ble maen nhw'n cael y coed a faint o ynni adnewyddadwy y mae'n ei greu ar draws Cymru gyfan?

Adroddiad a gyhoeddwyd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru heddiw (23.07.13) yw’r ymgais sylweddol cyntaf i ateb y cwestiynau hyn. Mae'r adroddiad,  'Arolwg Coed Tân yng Nghartrefi Cymru 2012' wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan Dr Jenny Wong, aelod o Llais y Goedwig, Cyfarwyddwr Wild Resources Ltd ac yn ddarlithydd er anrhydedd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD), Prifysgol Bangor a Dr James Walmsley, darlithydd mewn coedwigaeth yn ADNODD. Bu’n bosib gwneud yr ymchwil hon oherwydd cefnogaeth Go Wales a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru (Adnoddau Naturiol Cymru bellach).

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yma yn dangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y cartrefi yng Nghymru sy'n defnyddio coed tân.  Mae hyn yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd mwyaf gwledig lle mae hyd at 75% o gartrefi’n defnyddio coed tân. Ond hyd yn oed mewn ardaloedd trefol, mae 5% o gartrefi yn defnyddio coed tân gyda 5% arall yn dweud y byddent yn hoffi cael cyfle i losgi coed. Cyfanswm o ryw 11% o gartrefi yng Nghymru gyfan sy’n llosgi coed. Amcangyfrif gorau'r ymchwilwyr o gyfanswm cyfaint y pren a losgwyd mewn cartrefi yng Nghymru yw tua hanner miliwn metr ciwbig.

O ble mae'n dod? Yn ddiddorol, mae'r ymchwilwyr wedi canfod bod llai na hanner y defnyddwyr coed tân mewn gwirionedd yn prynu coed tân. Yn lle hynny maent yn casglu coed tân ar eu tir eu hunain neu gan gymdogion neu gyfeillion. Mae cartrefi yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gynhyrchu ynni gwres adnewyddadwy yng Nghymru, sy'n cyfateb o ran maint i gynhyrchu trydan adnewyddadwy ar raddfa fawr, ond nid yw’r ymdrechion pwysig hyn yn cael eu mesur, eu hadrodd na’u cydnabod ar hyn o bryd.

Meddai Dr James Walmsley: "Mae'r ymchwil fanwl yn darparu tystiolaeth gref iawn fod cartrefi yng Nghymru yn edrych fwyfwy i gyfeiriad coed tân carbon isel, cynaliadwy a diogel yn hytrach na thanwyddau ffosil wrth wresogi eu cartrefi. Dylai'r ymdrechion hyn  gael eu cydnabod mewn ystadegau a mesurau swyddogol sydd ar waith i sicrhau bod Cymru yn gwireddu potensial ei choetiroedd i ddarparu ffynhonnell ddibynadwy a fforddiadwy o wres adnewyddadwy i gartrefi."

Meddai David Williams o grŵp coetiroedd cymunedol Blaen Brân ger Cwmbrân yn Ne-ddwyrain Cymru: "Rydym yn falch iawn o allu helpu gyda'r arolwg hwn - mae wedi tanlinellu’r ffaith bod yna alw am goed tân ym mhob cwr o Gymru, ac mae hyn yn golygu y gall llawer o grwpiau roi ystyriaeth o ddifrif i gynhyrchu coed tân fel rhan o'u gwaith yn rheoli coetiroedd bach. Mae’r galw’n cynyddu- felly rhaid i ni yng Nghymru ystyried sut gallwn fynd i’r afael â hyn mewn ffordd gynaliadwy."

Mae gradd ymchwil feistr lawn-amser dros gyfnod o flwyddyn wedi ei hariannu’n llawn gan KESS wedi cael ei chymeradwyo gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar i ddatblygu’r gwaith ymchwil hwn. Bydd y swydd yn cael ei hysbysebu ar wefan Sgiliau Cymru cyn bo hir. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Awst.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2013