Cwrw, Bara a Gwell Iechyd

Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe 6.6.15

Mae'n debyg bod cysylltiad rhwng cwrw, bara a gwell iechyd - a burum yw'r cysylltiad hwnnw.

Jessica FletcherJessica FletcherBydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol Bangor, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.

Bydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol Bangor, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.

Mae Jessica, sy'n 27 oed, ac yn hanu'n wreiddiol o Wallasey ar y Wirral, yn egluro:

"Yn fy ymchwil, rydw i'n defnyddio organeb fodel syml ac yn astudio prosesau yn y celloedd y gellir eu cymhwyso wedyn i gelloedd dynol. Y burum yr ydw i'n ei ddefnyddio yn yr ymchwil yw Schizosaccharomyces pombe. Burum cyffredin arall a ddefnyddir mewn ymchwil yw Saccharomyces cerevisiae, burum y pobydd yw ei enw mwyaf cyffredin! Yn fy sgwrs Bocs Sebon Gwyddoniaeth: ‘Super Yeast: Beer, Bread and Better Health’, byddaf yn disgrifio sut mae'r un burum a ddefnyddir i bobi bara ac i eplesu cwrw yn cael ei ddefnyddio i astudio afiechydon fel canser.”

"Wrth i ni dyfu, mae ein celloedd yn ymrannu, ac yn ystod y broses hon rhaid iddynt gopïo eu DNA yn fanwl gywir. Os yw'r DNA wedi ei niweidio, ni fyddem am i'r gell barhau i ymrannu heb drwsio'r niwed gyntaf, neu gallai arwain at afiechyd. Mae gan gelloedd bwyntiau gwirio sy'n bodoli er mwyn ceisio sicrhau bod y niwed i'r DNA yn cael ei drwsio cyn ei gopïo. Rydw i'n astudio protein yn y pwynt gwirio hwn o'r enw ‘Cds1’, neu ‘Checking DNA Synthesis 1’.”

Ychwanega:

"Roeddwn i am gymryd rhan yn y cynllun Gwyddoniaeth Bocs Sebon oherwydd credaf ei fod yn gyfle heb ei ail nid yn unig i ganmol rhinweddau'r burum dinod, ond yn llwyfan i addysgu'r cyhoedd ac i annog merched ifanc eraill i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth. Er bod y mudiad Merched mewn Gwyddoniaeth wedi dod yn bell, mae yna brinder merched  yn y pynciau STEMM o hyd, yn enwedig yn y cyfryngau ac mewn rhwydweithiau cymdeithasol.  Roedd y mwyafrif o'm cyd-fyfyrwyr ar fy nghwrs israddedig yn ferched, ond yn y byd ôl-raddedig mae'r rhan fwyaf o'm cydweithwyr yn ddynion; mae'r anghydbwysedd hwn i'w weld mewn llawer o feysydd STEMM mewn Addysg Uwch a'r byd academaidd. Dylai unigolion allu dilyn unrhyw yrfa y maent yn teimlo'n angerddol amdani, ac ni ddylent deimlo eu bod yn cael eu trin yn wahanol neu'n llai ffafriol am unrhyw reswm, gender neu fel arall. Roedd symud ymlaen i wneud ymchwil i weld yn gam naturiol i mi, ac felly roeddwn i wrth fy modd o gael fy newis i gymryd rhan yn y cynllun Gwyddoniaeth Bocs Sebon er mwyn cael cyfle i annog merched ifanc eraill i gymryd yr un cam a mynd ar ôl eu diddordeb angerddol mewn gwyddoniaeth."

Mae Jessica yn diwtor ac yn gysylltai dysgu yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor a hefyd yn fyfyriwr PhD yn gwneud ymchwil i ganser yn y brifysgol. Mae ganddi BSc mewn Gwyddorau Biofeddygol ac mae'n Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig ac yn Gymrawd Cysylltiol yn yr Academi Addysg Uwch. “Yn fy addysgu rydw i'n canolbwyntio ar fioleg ddynol a sut mae'r corff iach yn gweithio. Mae fy ymchwil ar y llaw arall yn canolbwyntio ar eneteg y celloedd a niwed i DNA, er mwyn deall cylch oes y gell ddynol a datblygiad canser yn well.”

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015