Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America

Bydd yr Athro Huw Pryce yn traddodi darlith Cyweirnod yn ail ystyried cyfraniad  y naturiaethwr Edward Llhuyd, sydd efallai'n fwy andabyddus fel y sawl a ddarganfu 'Lilir Wyddfa'.: Manylun o lun Lloydia serotina gan Hugh Knott o Flickr CC BY-ND2.0Bydd yr Athro Huw Pryce yn traddodi darlith Cyweirnod yn ail ystyried cyfraniad y naturiaethwr Edward Llhuyd, sydd efallai'n fwy andabyddus fel y sawl a ddarganfu 'Lilir Wyddfa'.: Manylun o lun Lloydia serotina gan Hugh Knott o Flickr CC BY-ND2.0Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018. Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.

Bydd y gynhadledd hon, sy’n para am dridiau, yn trafod detholiad cynhyrfus ac amrywiol o destunau a themâu sy’n ymwneud â diwylliant, llenyddiaeth a hanes Cymru, gan gynnwys diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth, y tirlun, llenyddiaeth, rhyfel, y cyfryngau a cherddoriaeth. Bydd hefyd yn edrych ar ddiwylliant Cymru yn America, ac yn rhoi sylw i bynciau llosg sy’n effeithio ar y Gymru gyfoes. 

Efallai fod Edward Lhuyd, y naturiaethwr a’r ysgolhaig o’r 17eg ganrif, yn fwyaf adnabyddus fel y sawl a ddarganfu ‘Lili’r Wyddfa’, neu fel ‘tad Astudiaethau Celtaidd’, ond yn y brif ddarlith bydd Huw Pryce, Athro Hanes Cymru Prifysgol Bangor, yn dadlau bod dealltwriaeth sylfaenol Edward Lhuyd o hanes Cymru'n bur nodweddiadol o'i gyfnod.

Drwy gydweithio â hynafiaethwyr yng Nghymru, mae’r Athro Pryce yn dadlau fod Lhuyd hefyd yn taflu goleuni unigryw ar ddiwylliant hanesyddol ei gydoeswyr - gan gynnwys 'chwedlau' a 'thraddodiadau' y bobl gyffredin.

Digwyddiad arall ar agenda lawn ac amrywiol y gynhadledd yw panel yn trafod Tirlunio gorffennol Cymru, gan drafod sut y gellir defnyddio’r tirlun fel ffynhonnell hanesyddol.

Bydd myfyrwraig ôl-radd o’r Brifysgol, Leona Holland, yn bwrw golwg ar safle hen ddistyllfa chwisgi yn Fron Goch ger y Bala a ddefnyddiwyd fel gwersyll carcharorion rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna fel gwersyll ar gyfer carcharorion o Iwerddon yn dilyn Gwrthryfel y Pasg 1916.

Bydd yr archeolegydd, Gary Robinson, yr hanesydd, Mari Wiliam a’r myfyriwr israddedig mewn Archeoleg, Owen Hurcum, yn trafod y ffaith nad yw olion o’r gorffennol y gellir eu gweld o hyd yn y tirwedd, megis graffiti, wedi cael sylw digonol.

Mae graffitti enwog Cofiwch Dryweryn ger yr A487 yn Llanrhystyd wedi ei ail baentio sawl gwaith er y gwreiddiol yn y 60au ac wedi ei hychwanegu ato sawl dro: Llun Wiki Images image gan Dafydd Tomos CC BY-SA 4.0Mae graffitti enwog Cofiwch Dryweryn ger yr A487 yn Llanrhystyd wedi ei ail baentio sawl gwaith er y gwreiddiol yn y 60au ac wedi ei hychwanegu ato sawl dro: Llun Wiki Images image gan Dafydd Tomos CC BY-SA 4.0Fel yr Esbonia Mari Wiliam:

“Mae gan gymdeithas gof diwylliannol byw am ddigwyddiadau dadleuol yng Nghymru’r 20ed ganrif, megis ‘boddi’ Tryweryn ym 1965 neu Arwisgo’r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru ym 1969. Arweiniodd y digwyddiadau hyn at brotestiadau cenedlaetholgar, ac yn fwy trawiadol gan grwpiau mwy milwriaethus megis Byddin Rhyddid Cymru neu’r Free Wales Army a wisgai lifrai ac arnynt arwyddlun ‘Eryr Gwyn Eryri’.

Byddwn yn trafod dulliau archeolegol a hanesyddol sy’n cyd-fynd â gwaith ein cyd-banelwr, Sean Martin, ynglŷn â thirwedd dadleuol Tryweryn a Gorsaf Niwclear Trawsfynydd. Byddwn yn edrych ar sut mae graffiti, gorymdeithiau cofio a hyd yn oed grysau-t yn cynnal olion gweledol a diriaethol o gerrig milltir cenedlaetholdeb ac yn cynnal mytholeg emosiynol am orffennol diweddar Cymru.”

Meddai’r Athro Andrew Edwards, Deon a chyd-drefnydd y gynhadledd:

“2012 oedd y tro diwethaf y cynhaliwyd Cynhadledd NAASWCH ym Mangor, ac rwy’n falch o’i chroesawu unwaith eto i’r Brifysgol, gan ei bod yn cynnig gyfle gwych i ddysgu am ymchwil sy’n torri cwys newydd yn ein dealltwriaeth o orffennol Cymru a’i chymdeithas gyfoes.’

Mae’r gynhadledd  hefyd yn cynnwys papurau gafaelgar gan brif siaradwyr blaenllaw megis Katie Gramich, Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, a Huw Osborne, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada. 

I gael rhagor o fanylion am y gynhadledd, cysylltwch â’r cyd-drefnydd Dr Mari Wiliam:

hisa05@bangor.ac.uk

Bydd cyfranogwyr y gynhadledd hefyd  yn cyhoeddi darn cryno ar flog newydd Prifysgol Bangor ar Hanes Cymru.  Gellir gweld y blog ar y ddolen ganlynol:

https://hanescymrubangor.wordpress.com/ 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018