Gwersi mewn dwyieithrwydd: be all Corsica dysgu o Gymru?

Mae myfyriwr o Corsica yn ymweld ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar interniaeth i ddysgu am ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd Petru Filippi, sy’n fyfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Corsica, yn treulio 4 mis ym Mangor o dan oruchwyliaeth Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg ac arbenigwr mewn cynllunio ieithyddol yng Nghymru.

Eglurodd Petru: “Dewisais wneud yr interniaeth ar effaith polisïau iaith dwyieithog yng Nghymru gan fod gennym sefyllfa ieithyddol debyg yn Corsica. Fodd bynnag, nid oes gan iaith Corsica (Corseg) gydnabyddiaeth swyddogol, er ein bod yn brwydro dros gael hynny”. Dr Cynog Prys (chwith) a Petru Filippi Dr Cynog Prys (chwith) a Petru Filippi

Mae Corsica yn ynys oddi ar arfordir Ffrainc ble mae pobl yn siarad Ffrangeg a Corseg. Iaith leiafrifol yw Corseg, yn debycach i Eidaleg na Ffrangeg, gyda dwy dafodiaith, sef Corseg y gogledd (sy’n debycach i Eidaleg ardal Tuscany) a Corseg y de (sy’n debycach i Sardineg). Nid oes gan Corseg statws swyddogol yn Corsica gan fod cyfansoddiad  Ffrainc yn nodi mai ‘Ffrangeg yw iaith Gweriniaeth Ffrainc’.

“Mae’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru yn ddiddorol gan ei bod yn iaith hen iawn, yn hollol wahanol i Saesneg, ag wedi goroesi hyd heddiw. Hefyd, y Gymraeg yw’r iaith Geltaidd gyfoes sy’n cael ei defnyddio fwyaf”, medd Petru.

Yn ogystal â hynny, iaith arall pobl Cymru yw Saesneg, sy’n iaith ryngwladol fawr, ac os yw pobl Cymru yn gallu cynnal a chynyddu’r defnydd o’r iaith ar waethaf hyn, mae’n esiampl dda i bobl Corsica.”

Yn ystod ei amser yng Nghymru, bydd Petru yn ymweld â sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud â hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ym Mangor a thu hwnt. Bydd hefyd yn ysgrifennu adroddiad yn adrodd ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru, a’r gwersi y gellir eu ddysgu ar gyfer adfer iaith Corsica.

Meddai’r Dr Cynog Prys: “Mae’n wych gallu croesawu Petru yma i Brifysgol Bangor. Mae iaith Corsica a’r Gymraeg yn wynebu heriau tebyg, a gall cyfnewid mewn gwybodaeth ac arbenigedd fod o fudd i’r ddwy gymuned ieithyddol. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol clywed gan Petru am sut y mae Corseg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, er bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Ffrainc yn brin iawn.

“Bydd Petru yn cael cyfle i gyfrannu at ddysgu o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas drwy roi darlith yn y modiwl ‘Hawliau Ieithyddol’. Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr yr adran glywed am y sefyllfa ieithyddol yng Nghorsica a chymharu sut mae gwahanol wladwriaethau yn delio gydag amlieithrwydd a ieithoedd lleiafrifol”.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016