Mwd gludiog a gweddillion biolegol yn allwedd i ddarogan erydiad arfordirol

Mae gwyddonwyr wedi cymryd cam enfawr tuag at ddatblygu ffordd fwy dibynadwy o ddarogan sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar amgylcheddau aberoedd ac arfordiroedd.

Gan weithio fel rhan o broject cydweithredol, a arweinir gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, i asesu sut mae deunyddiau mân fel mwd a thywod yn cael eu symud o amgylch ein harfordir gan geryntau dŵr, a sut y gall y symudiadau hyn newid o ganlyniad i newid hinsawdd, mae'r Athro Dan Parsons, o Brifysgol Hull, wedi nodi elfennau allweddol sydd ar goll ar hyn o bryd o'r modelau sy'n helpu gwyddonwyr a pheirianwyr benderfynu sut y bydd arfordiroedd ac aberoedd yn cael eu siapio yn y dyfodol.

Yn awr mae'r ymchwil arloesol hon wedi cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn blaenllaw, sef Geophysical Research Letters. 

Yn flaenorol, mae gwyddonwyr wedi cyfrifo sut y bydd arfordiroedd ac aberoedd yn newid ar sail rhagdybiaethau syml bod gwelyau'r môr ac afonydd yn cynnwys dim ond tywod yn unig. 

Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae'r mannau hyn yn cynnwys cymysgedd o dywod, mwd a chreaduriaid megis mwydod a diatomau, sy'n symud i fyny ac i lawr a thrwy'r banciau tywod gan secretu mwcws gludiog.

Roedd ymchwil Yr Athro Parsons yn edrych ar sut mae gwahanol lefelau o dywod, mwd a mwcws biolegol yn effeithio ar sefydlogrwydd gwahanol fathau o fanciau a thwyni yn yr amgylcheddau hyn.

Mae ffurfiau'r gwelyau hyn yn allweddol o ran rheoli sut mae dŵr yn symud, o ran patrymau llif, cyflymder a chyfeiriadau llif y dŵr. Felly, mae hyn yn cael effaith ar siâp ein haberoedd a'n harfordiroedd, yn cynnwys rheoli erydu arfordirol. 

Meddai'r Athro Parsons:  "Mae rhagweld effaith newid hinsawdd ar ein harfordiroedd a'n haberoedd yn bur heriol.  Ond does neb wedi cymryd 'llysnafedd biolegol' a 'mwd gludiog' i ystyriaeth o'r blaen.  Mae ein canlyniadau'n dangos bod y ffactorau hyn, a sut maent yn newid, yn wirioneddol bwysig o ran sicrhau daroganau cywir yn ymwneud â deinameg arfordiroedd ac aberoedd."

Cyllidwyd y tîm gan yr UK Natural Environment Research Council drwy'r project COHBED, sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgolion Bangor, St Andrews, Plymouth a Leeds, ynghyd â'r National Oceanographic Centre. Fe wnaethant gynnal 16 o arbrofion yn y Total Environment Simulator (TES) sydd wedi'i leoli yn The Deep yn Hull. 

Meddai Prif Ymchwilydd y project COHBED, Dr Jaco H. Baas, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:  "Mae'r TES yn gyfleuster ymchwil o'r safon uchaf a gynhelir gan Brifysgol Hull. Ei fwriad yw modelu deinameg hylif a gwaddodion amgylcheddol ar draws ystod o osodiadau ac amodau.  Mae'r ymchwil a wnaed yn y TES gan Yr Athro Parsons, ynghyd â chasglu data pellach yn y labordy a'r maes gan y tîm COHBED, yn arwain y ffordd mae gwyddonwyr ac ymarferwyr yn cyfuno bioleg a ffiseg i ddarogan sefydlogrwydd a symudiad gwaddod 'gludiog' ar hyd ein harfordiroedd. 

Fe wnaeth Yr Athro Parsons a'r tîm gymysgu gwahanol symiau o dywod, clai a 'glud biolegol' ac amrywio swm pob un yn ofalus ar draws y set o arbrofion.

Fe wnaethant ddarganfod fod y ffurfiannau ffisegol yn sylweddol wahanol yn ôl y symiau amrywiol o'r gwahanol ffactorau a ychwanegwyd.

Roedd crychau a thwyni yn y gwelyau yn sylweddol fwy amlwg pan mai dim ond tywod a ddefnyddid. 

Roedd ychwanegu clai'n lleihau maint y ffurfiau hyn.  A phan oedd y 'glud biolegol' yn cael ei ychwanegu, roedd y gwely'n aros fwy neu lai'n hollol fflat drwy gydol yr arbrofion.

Meddai'r Athro Parsons:  "Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw dangos pa mor bwysig ydy'r ffactorau 'gludiog' hyn mewn rheoli maint ffurfiau gwely mewn sianelau aberoedd ac o amgylch ein harfordiroedd.  

"Bydd hyn yn ein galluogi i ddarogan yn well sut y bydd newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr yn effeithio ar ein harfordiroedd a'n haberoedd, fel y byddwn yn gallu modelu'n well sut mae banciau tywod a'n harfordiroedd yn mynd i newid."

Ychwanegodd Dr Baas:  "Fe all yr ymchwil yma hefyd roi gwell syniad i ni ynghylch sut a phryd y datblygodd bywyd ar y Ddaear, drwy chwilio am arwyddnodau'r ffurfiau ar fywyd a chleiau hyn wedi eu cofnodi mewn ffurfiannau gwaddod daearegol hynafol." 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2016