Oes Aur Canu Pop Cymraeg

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa’r flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf.

Mae Hannah Way, sy’n byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio ‘Oes Aur’ pop Cymraeg  ar ran yr Amgueddfa. Mae hi’n ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.

Dyna rai o’r cwestiynau mae Hannah yn eu gofyn wrth iddi holi rhai o ‘hoelion wyth’ y sin roc a phop Cymraeg yn ystod yr 80au a’r 90au. Mae Hannah’n cael ei chefnogi gan Ysgoloriaeth Cynllun KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth) yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Gan ddefnyddio arian Ewropeaidd bydd yr Ysgoloriaeth KESS yn arwain at  Radd Meistr drwy ymchwil a darparu'r sgiliau a'r profiad i Hannah fedru gweithio yn y maes ar ôl cwblhau ei hastudiaethau.

Daw Hannah, sy’n 22 oed, o Nelson yn wreiddiol. Graddiodd hi'r llynedd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae Hannah’n gweithio o dan oruchwyliaeth Dr Pwyll ap Siôn a Dr Craig Owen Jones, darlithwyr yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor, ac arbenigwyr ar y sin roc a phop yng Nghymru.

Meddai Dr Craig Owen Jones: “Ffrwydrodd y sin yng Nghymru gyda nifer fawr o labeli annibynnol a stiwdios bychain yn cael eu creu a’u hagor yn ystod y cyfnod. Roedd hyn yn fodd i nifer o fandiau a grwpiau gael mynediad at dechnoleg recordio ac i rannu’u cerddoriaeth efo cynulleidfaoedd newydd. Ers hynny mae chwyldro wedi bod mewn cyfrifiaduro a’i ddefnydd ar gyfer cyfryngau torfol wrth gwrs. Gellid ystyried  y cyfryngau newydd fel bygythiad i’r diwydiant cyhoeddi, wrth gwrs, ond maent hefyd yn cynnig cyfrwng newydd i  rannu cerddoriaeth efo pobl. Mae rhan o waith Hannah’n cynnwys holi’r labeli am y defnydd maent yn ei wneud o’r cyfryngau newydd er mwyn hybu’u cynnyrch yn ogystal â sut maent yn effeithio ar eu busnes.”

Meddai Ian Smith, Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Wrth feddwl am ein diwydiannau hanesyddol, rydym yn naturiol yn tueddu i feddwl am oes y diwydiannau trwm, fel glo a dur, ond mae gennym draddodiad o arloesi  a menter mewn meysydd tra gwahanol.”

“Bydd yr arddangosfa ‘Oes Aur Canu Pop’ yn talu teyrnged i ddiwydiant cerddorol Cymru ac yn ymchwilio i rai o’r diwylliannau a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrthi.”

Esboniodd Hannah fod “y project a’r cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i hanes pop Cymraeg yn apelio’n fawr i mi. Fel un sy’n dod o deulu di-Gymraeg, doeddwn i ddim yn sylweddoli fod y sin roc a phop yng Nghymru mor fawr nes dod i Brifysgol Bangor a phrofi’r bywyd myfyrwyr Cymraeg yma. Roedd hyn yn cynnwys mynd i gigs a nosweithiau Clwb Cymru ag ati. Roedd yr holl gefndir yn weddol newydd i mi ar yn agoriad llygad.”

“Fy man cychwyn yw cysylltu efo’r unigolion y tu ôl i labeli ac artistiaid yr 80au a’r 90au er mwyn trafod y diwydiant ar y pryd. Rwyf wedi cwrdd â Dafydd Iwan ac yn cwrdd yn fuan â Steffan Cravos, aelod blaenllaw o’r sin pop tanddaearol yng Nghymru, a Gruff Meredith o Label Tarw Du, ymysg eraill. Hefyd, mae gen i ddiddordeb yn y defnydd a wneir o roc a phop Cymraeg ym myd addysg yng Nghymru: o weithgareddau efo pobol fel Martyn Geraint ar gyfer plant meithrin, trwy nosweithiau’r Urdd  i bobol ifanc ac, wrth gwrs, modiwlau  sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymwneud ag agweddau ar bop Cymraeg.”

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012