Tri phroject o Fangor ymysg yr 20 uchaf sy’n cyfrannu at ddatblygiad

Ffarmwr yn asesu cnwd o filed perlog.Ffarmwr yn asesu cnwd o filed perlog.Mae dim llai na 3 phroject o Brifysgol Bangor wedi‘u dewis o blith bron i 7,000 o gyflwyniadau i’w ddefnyddio fel enghreifftiau o’r 20 project ymchwil orau sy’n cyfrannu at ddatblygiad rhyngwladol

Dewiswyd yr 20 enghraifft allan o’r holl brojectau ymchwil gan brifysgolion Prydain a gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Mae gwaith Prifysgol Bangor  ar wella cnydau  yn astudiaeth achos wych o’r modd y gall ymchwil o’r DU gael effaith fyd-eang, yn yr achos hwn drwy gynyddu diogelwch bwyd i tua 3 miliwn o bobl.

Mae’r gwaith gan yn Athro John Witcombe o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi datblygu straen o filed perlog sy’n gwrthsefyll clefydau. Mae miled yn brif gnwd i drwch y boblogaeth drwy Affrica a Deheudir Asia. Bob blwyddyn mae colledion enfawr i’r cynhaeaf oherwydd y clefyd llwydni blewog.   Erbyn hyn, mae’r math newydd sy’n gwrthsefyll clefyd yn cael ei dyfu’n eang yn India gan alluogi sustemau ffermio hydwyth a chreu gwaith i ferched lleol. Dyma un enghraifft o rywogaethau newydd o gnydau newydd neu well a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfranogiad ffermwyr lleol yn Asia.

Hefyd wedi ei chynnwys mae partneriaeth ymchwil gyda’r nod o warchod bywoliaeth pobl leol drwy gefnogi cadwraeth ac adferiad coedwigoedd mangrof mewn rhannau o Kenya, lle mae cymunedau tlawd yn dibynnu’n drwm ar yr adnoddau naturiol a’r ecosystem sy’n deillio o’r coedwigoedd mangrof.

Planu mangrofau yn Kenya.Planu mangrofau yn Kenya.Mae Dr Martin Skov o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn un o’r ymchwilwyr allweddol yn y DU  sydd, trwy eu hymchwil, wedi cynorthwyo cymunedau lleol yn Kenya i  ddechrau project masnachu carbon o fewn ecosystem fôr, sef mangrofau.  Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn y byd. Mae’r cynllun yn dod â $12-18,000 y flwyddyn i bobol  Bae Gazi drwy dystysgrifau masnachu sy’n nodi’r  CO2 sydd yn cael ei ddal yn y mangrofau y mae’r pentrefwyr yn eu gwarchod. Mae’r elw’n ariannu projectau creu swyddi a chymunedol, fel adeiladu adain newydd i’r ysgol  a chyflenwad dŵr. Bellach, mae’r broject yn cael ei gynnal gan y gymuned, ac yn cynnwys amrediad o weithgareddau cefnogol.

Mae Dr John Turner, hefyd o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, wedi bod yn ymwneud yn agos â datblygu ac archwilio gwarchodfa fôr fwya’r byd, er mwyn cefnogi cadwraeth a phobol cefnfor India.  Mae riffau cwrel ac ynysoedd y Chagos yng nghanol Cefnfor India  yn rhan o Diriogaeth Dramor Prydain, a dyma’r amgylchedd môr mwyaf amrywiol o fewn tiriogaethau Prydain.  Nid oes neb yn byw ar riffiau Chagos, ac nid yw gweithgaredd dynol yn effeithio bron ddim arnynt. Yno ceir y dŵr môr glanaf sydd erioed wedi ei brofi, ynghyd â chyfoeth biolegol a  biomas a chynnyrch eithriadol . Mae defnyddio’r Chagos fel meincnod er mwyn cymhariaeth fiolegol yn rhoi sail gadarn ar gyfer adfer a rheoli riffiau eraill sydd wedi eu niweidio.


Archwilio rîff.Archwilio rîff.Meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor, sydd â chyfrifoldeb dros ymchwil yn y Brifysgol: “Ein nod yw i’n hymchwil gael effaith a dylanwad rhyngwladol cryf a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae hyn yn enghraifft wych o’r amryfal ymchwil sydd yn cael effaith economaidd sylweddol yn ogystal.”

 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015