Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Darganfod Bad Glanio o'r Ail Ryfel Byd oddi ar arfordir Cymru yn datrys dirgelwch 77 oed

LCT 326 was a Mk III ‘Landing Craft Tank’ designed to land armoured vehicles during amphibious operations, : Image courtesy Imperial War MuseumRoedd yr LCT 326  yn 'Danc Bad Glanio' Mk III a ddyluniwyd i gario cerbydau arfog yn ystod gweithrediadau amffibiaid. : Delwedd;Imperial War Museum

Mae cydweithrediad rhwng tîm o wyddonwyr a thechnegwyr môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor, a'r archeolegydd morwrol a hanesydd o fri rhyngwladol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth, wedi arwain at ddigwyddiad annisgwyl. Maent wedi darganfod ac adnabod bad glanio a gollwyd ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

Ar ôl i dîm Bangor gasglu data sonar amlbelydr o safle llongddrylliad oddi ar Ynys Enlli gan ddefnyddio'r llong ymchwil Prince Madog yn 2019, llwyddwyd yn ddiweddar i adnabod y llongddrylliad fel bad glanio o'r Ail Ryfel Byd a gollwyd yn ôl pob sôn oddi ar arfordir Ynys Manaw.

Roedd yr LCT 326 yn 'Danc Bad Glanio' Mk III a ddyluniwyd i gario cerbydau arfog i'r lan yn ystod gweithrediadau amffibiaid. Adeiladwyd y bad ym Middlesbrough a chafodd ei lansio ym mis Ebrill 1942. Adeiladwyd nifer fawr o'r cychod arbenigol iawn hyn yn ystod blynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd ac fe'u defnyddiwyd yn helaeth yn ystod gweithrediadau Dydd D ym Mehefin 1944. Diflannodd yr LCT 326 wrth groesi o'r Alban i Ddyfnaint ym mis Chwefror 1943 gyda chriw o bedwar ar ddeg ar ei bwrdd. Cofrestrwyd achos y diflaniad ar y pryd gan y Morlys o ganlyniad i dywydd gwael neu wrthdrawiad â ffrwydryn oddi ar Ynys Manaw, ond mae'r ymchwil newydd hwn wedi lleoli'r llongddrylliad dros 100 milltir i ffwrdd oddi ar arfordir Ynys Enlli yng ngogledd Cymru.Map a delwedd sonar yn dangos cyflwr a lleoliad  LCT 326Map a delwedd sonar yn dangos cyflwr a lleoliad LCT 326 fel yr arolygwyd yn 2019.Darlun o LCT MKIIIDarlun o LCT MKIII

Dywedodd Dr Innes McCartney:
“Mae llongddrylliad yr LCT 326 yn un o dros 300 o safleoedd yn nyfroedd Cymru sydd wedi eu harolygu gan y Prince Madog ac amcan y darn penodol hwn o ymchwil yw nodi cymaint â phosibl o longddrylliadau ar y môr yn nyfroedd Cymru a thaflu goleuni ar eu gwahanol dreftadaeth forol. Mae'r agwedd hon ar y project wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau newydd a chyffrous yn ymwneud â'r ddau ryfel byd, gyda'r LCT 326 yn ddim ond un enghraifft ohonynt.”

Bydd y data sonar hefyd yn chwarae rhan ganolog yn helpu i ddatblygu’r sector ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru trwy broject ymchwil SEACAMS2 dan arweiniad Prifysgol Bangor, sy’n archwilio’r effaith y mae llongddrylliadau yn ei chael ar amgylchedd y môr. 

Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Michael Roberts:
“Mae adnabod y llongddrylliadau hyn ar y môr a darganfod ers pa bryd y maent wedi suddo yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddeall sut mae strwythurau'n rhyngweithio gyda phrosesau'r môr dros amser sydd o ddiddordeb mawr i'r diwydiant ynni adnewyddadwy môr. 

Yn aml, gall llongddrylliadau fel yr LCT 326 a'u 'hôl traed' ffisegol ac ecolegol cysylltiedig roi dealltwriaeth ragarweiniol i ni o natur a phriodweddau gwely'r môr cyfagos heb orfod cynnal arolygon geowyddonol mwy cymhleth, heriol a drud." 

Roedd dadansoddiad cychwynnol o'r data sonar a gafwyd o'r safle, yn cynnwys dimensiynau'r llongddrylliad a'i ymddangosiad cyffredinol, wedi awgrymu mai LCT oedd y llongddrylliad. Nododd ymchwil archifol pellach mai'r LCT 326 oedd y gweddillion yn fwy na thebyg. 

Mae dogfennau yn yr Archifau Cenedlaethol yn dangos bod y llong yn rhan o'r llynges fach, y 7fed LCT, ac roedd yn croesi o Troon, yn yr Alban i Appledore yn Nyfnaint. Hwyliodd y llynges fach, dan wyliadwriaeth HMS COTILLION ar 31 Ionawr 1943. Yn ôl y cofnodion ar y pryd roedd y tywydd yn arw a hwyliodd y llynges fach yn araf tua'r de. Aeth y llynges fach heibio Ynys Manaw mewn golau dydd ar 1 Chwefror a pharhau i'r de. Y noson honno am 18.30 o'r gloch wrth i'r tywydd waethygu eto, gwiriodd HMS COTILLION y llynges fach a sylwi bod yr LCT 326 yn dal gyda'r confoi. Dyna'r tro diwethaf i'r LCT 326 gael ei gweld, yn hollbwysig, cofnodwyd bod y lleoliad lle gwnaed y gwiriad hwn ychydig i'r gogledd-orllewin o Ynys Enlli.

Gwelir yn awr bod y llongddrylliad 25 milltir ymhellach i'r de o'r fan lle gwelwyd yr LCT 326 ddiwethaf, mewn llinell bron yn berffaith gyda chwrs y llynges fach ac mae'n gorwedd mewn dros 90m o ddŵr. Mae dimensiynau ac ymddangosiad y llongddrylliad o'r data sonar yn dangos ei fod yn 58m o hyd a 10m o led, sy'n debyg i ddimensiynau LCT MKIII. Dangoswyd bod y llongddrylliad mewn dau hanner, yn gorwedd ar wely'r môr 130m oddi wrth ei gilydd.

Mae'n ymddangos bod y bad wedi dryllio mewn moroedd garw rywbryd ar ôl iddi gael ei gweld ddiwethaf ac mae'n debyg iddi dorri yn ei hanner ychydig tu blaen i'r bont lywio, gyda'r ddau hanner yn arnofio am ddigon hir i gael eu gwahanu 130m. Mae'r data sonar yn dangos nodweddion allweddol y bad yn glir fel ei ale lanio nodedig a chaban bwrdd y starn ac er nad ydym yn gwybod pam y drylliwyd y bad (ni ellir diystyru ffrwydrad neu wrthdrawiad â ffrwydryn yn llwyr) mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai hyn fod yn ddim mwy na damwain drasig ar y môr.

Byddwn yn awr yn rhoi gwybod i'r Morlys am leoliad y fynwent hon yn y môr, fel y gellir cywiro'r cofnodion a chofnodi man gorffwys y criw o bedwar ar ddeg yn gywir.

Caiff “Echoes from the Deep: Modern Reflections on our Maritime Past” ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2021.

Adnoddau'r delweddau:
LCT Mk III (IWM)
LCT 326 fel yr arolygwyd yn 2019
Colli’r LCT 326 a’i darganfod
Pen blaen yn dangos yr ale lanio

Pen-ôl yn dangos y caban bwrdd

Darlun o LCT MKIII

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2020