Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Seicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach

Rydym yn gwybod ers peth amser bod  anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn.

Mae'r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i'r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes.

Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin â'r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, daeth  project ymchwil PhD i'r casgliad bod seicoleg gadarnhaol - astudio cryfderau a rhinweddau sy'n helpu pobl i deimlo'n dda yn feddyliol - yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.

Un peth pwysig iawn a welwyd oedd bod pobl gydag amcanion penodol ac arwyddocaol mewn bywyd yn fwy tebygol o ymddwyn yn iach yn gorfforol, hyd yn oed os nad oedd yr amcanion hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'u hiechyd corfforol.

Roedd y project hwn, a ddechreuwyd yn 2016, yn un o'r cyntaf o'i fath, a chafodd ei ariannu ar y cyd gan Awyr Las, ac Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Gwybodaeth (KESS II).

Meddai Dr Rhi Willmot, a arweiniodd y PhD:

“Mae'r canlyniadau'n awgrymu y gall dulliau sy'n helpu pobl i wella eu lles meddyliol, fel cadw dyddiadur adfyfyriol a gosod amcanion,  gefnogi ymddygiad ffordd iach o fyw hefyd. Roedd yn bleser cael bod yn rhan o’r cydweithrediad hwn ac ymchwilio i sut y gellir lleddfu baich sylweddol cyflyrau iechyd a achosir gan ffordd o fyw.”

Dywedodd yr Athro Rob Atenstaedt, ymgynghorydd mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus yn nhîm iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae hwn yn faes astudio academaidd sydd wedi bod yn galw am fwy o ymchwil. Credaf fod y project hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i dystiolaeth newydd. Bydd ein tîm yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r canfyddiadau ym maes ymarfer iechyd cyhoeddus bob dydd yng Ngogledd Cymru."

Rhedwyr yn cychwyn ar y Parkrun yng Nghastell Penrhyn.: credyd llun: Steve Jeffery PhotographyRhedwyr yn cychwyn ar y Parkrun yng Nghastell Penrhyn.: credyd llun: Steve Jeffery PhotographyDros gyfnod o dair blynedd, cynhaliwyd chwe astudiaeth gyda chyfranogwyr o'r gymuned leol, rhedwyr yn Parkrun Penrhyn , a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y rhain yn cynnwys ymchwilio i'r ymarfer o gadw dyddiadur a fwriadwyd i'w helpu i nodi amcanion personol pwysig, a thasg a oedd yn cynnwys meddwl am y byd mewn termau 'lefel isel' neu 'ddarlun ehangach', cyn gwneud penderfyniadau am fwyta ac ymarfer corff.

Dywedodd yr Athro John Parkinson, a oruchwyliodd y project:

“Mae canlyniadau'r PhD hwn yn gyfraniad pwysig a gwreiddiol i'r sylfaen wybodaeth ddamcaniaethol a datblygu polisi cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gall y cydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru barhau er mwyn creu dealltwriaeth lawn ac arloesol  am wyddoniaeth ac ymarfer.”

Meddai Penny Dowdney, Rheolwr KESS 2 Cymru: “Mae'n rhoi boddhad mawr i mi weld canlyniadau'r ymchwil gydweithredol hon, a ariennir gan KESS 2, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Dyma enghraifft wych o ymchwil gydweithredol yn gweithio'n dda”.

Gallwch ddarllen adroddiad byr am y gwaith yma.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2020