Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Anrhydeddu darlithydd o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i addysg mewn gerddi botanegol

Dr Sophie Williams.Dr Sophie Williams.Mae Dr Sophie Williams, darlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn y Marsh Christian Award for Education in Botanic Gardens.

Rhoddir y wobr gan The Marsh Christian Trust, mewn cydweithrediad â Botanic Gardens Conservation International, i unigolyn ar ddechrau neu ynghanol gyrfa sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd planhigion neu wneud gweithgareddau addysg pwysig mewn gardd fotanegol. 

Meddai'r Athro Stephen Blackmore, cadeirydd Botanic Garden Conservation International: "Rydw i wedi mwynhau gweithio efo Sophie yn y Royal Botanic Garden yng Nghaeredin ac yn Tsiena - dwi erioed wedi cyfarfod â neb tebyg iddi mewn gwirionedd o ran ei hegni a'i hymroddiad i sicrhau dyfodol da i'r Ddaear. Mae'n dod yn ffrind yn syth i bawb y mae'n eu cyfarfod am mae'n rym anorchfygol dros newid er gwell yn y byd."   

Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, "Mae Sophie'n gyfathrebwr ac addysgwr nodedig iawn.  Mae myfyrwyr Bangor wedi elwa'n eithriadol o'r awch a'r brwdfrydedd sy'n nodwedd mor amlwg o'i dysgu.  Yn ogystal, mae wedi cynnal cyrsiau hyfforddi poblogaidd i fyfyrwyr yn Mauritius (i'r Durrell Wildlife Conservation Trust), Caergrawnt (i'r Cambridge Student Conference of Conservation Science), Tsiena (i Ardd Fotanegol Drofannol Xishuangbanna) a Bangladesh (i Brifysgol Rajshahi). Gwych o beth ydi gweld ei chyfraniad i addysg gadwraeth fyd-eang yn cael ei gydnabod drwy'r wobr yma."

Dyma oedd gan Wang Ximin, pennaeth addysg yng Ngardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna i'w ddweud:  "Fe wnaeth Sophie lawer iawn i wella addysg amgylcheddol mewn gerddi botanegol yn Tsiena, yn arbennig yma yn Xishuangbanna.  Gyda help Sophie, fe wnaeth yr ardd yma anfon ei staff i weld gerddi botanegol ym Mhrydain, yn cynnwys Treborth.  Er 2013, mae wedi datblygu a chynnal cwrs pythefnos bob blwyddyn i hyfforddi addysgwyr mewn gerddi botanegol yn Tsiena.   Mae tua 77 o addysgwyr o  33 o erddi botanegol a sefydliadau eraill wedi cwblhau'r cwrs." 

Ni allodd Sophie fynd i'r seremoni wobrwyo yn y Royal Botanic Gardens yng Nghaeredin gan ei bod yn wael.  Aeth yn sâl gyda Llid yr Ymennydd Japaneaidd tra ar daith ymchwil a dysgu yn Tsiena yng Ngorffennaf.  Mae'n dal yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ac mae ei holl gydweithwyr, ffrindiau a myfyrwyr yn y brifysgol yn dymuno gwellhad buan iddi.

Meddai ei thad, Mike Williams, "Mae Sophie'n dal i wneud camau bychain ymlaen ond mae ei chyflwr yn dal yn ddifrifol iawn.  Hyd yn oed nawr mae arni angen gofal dwys ac mae'n cael gofal yn ysbyty St James yn Leeds."

Mae Sophie wedi bod yn frwd ynghylch gerddi botanegol ers iddi ddod i Brifysgol Bangor yn fyfyriwr israddedig a gwirfoddoli i weithio yng ngardd fotaneg y Brifysgol yn Nhreborth.  Wrth i ddiddordebau academaidd Sophie ddatblygu, daeth gerddi botanegol byd-eang i'w sylw. Er enghraifft, gwobrwywyd ei gwaith ymchwil ar fioleg gadwriaethol Aloe polyphylla, planhigyn o ddeheudir Affrica sydd dan fygythiad mawr. Deilliodd y gwaith hwn o wybodaeth a chefnogaeth a gafodd gan gynheiliaid gerddi botanegol yma ym Mhrydain ac yn neheudir Affrica.  Aeth yn ei blaen i astudio am MSc mewn gwyddor cadwraeth, trwy raglen yn gysylltiedig â'r Royal Botanic Gardens yn Kew, cyn dychwelyd i Fangor i wneud PhD yn edrych ar swyddogaeth gerddi botanegol mewn cadwraeth planhigion yn rhyngwladol.  Ar ôl gorffen ei PhD bu'n gweithio yn y Royal Botanic Garden yng Nghaeredin, gan arwain project i addysgu'r cyhoedd am y clefyd marwol sy'n effeithio ar goed ynn.

Dychwelodd Sophie i Fangor yn 2013 fel darlithydd mewn cadwraeth ac, unwaith eto, canolbwyntiodd ar erddi botanegol fel cyfrwng i ledaenu addysg ac arfer dda ym maes cadwraeth. Sefydlodd gyswllt pwysig â Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsiena, a fu'n gyfrwng i roi addysg sylweddol i'r cyhoedd yn Tsiena a Chymru drwy broject gardd y ddwy ddraig.  Hefyd sefydlodd interniaethau cyfnewid i arddwriaethwyr a myfyrwyr, gyda myfyrwyr o Fangor yn cymryd ymwneud ag ymweliad Dug Caergrawnt â Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbunna yn gynharach eleni. 

Sefydlwyd The Marsh Christian Trust yn 1981 ac mae'n cynnal portffolio o wobrau pwysig sy'n cydnabod cyfraniad unigolion mewn gwahanol sectorau i wella'r byd rydym yn byw ynddo. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor