Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Arbenigwyr o Brifysgol Bangor yn cynnig fideos arlein i helpu plant gadw’n heini yng nghyfnod cyfyngiadau COVID-19

Lauren Toal (chwith) a'r Athro Pauline HorneLauren Toal (chwith) a'r Athro Pauline Horne

Mae rhaglen ymarfer corff arloesol i blant wedi cael ei lansio yng ngogledd Cymru ynghanol ofnau y gallai'r cyfyngiadau symud yn sgil Covid-19 arwain at gynnydd enfawr mewn gordewdra ymhlith plant.

Mae Dynamic Dudes, cyfres fideo ddwyieithog newydd Prifysgol Bangor, bellach ar gael am ddim ar-lein a phrofwyd ei bod yn llwyddo i gael plant rhwng 4 ac 11 oed i symud - mae astudiaethau wedi dangos cynnydd sy'n cyfateb i dros hanner milltir fesul cyfnod o 20 munud.

Yn ôl arbenigwyr iechyd, mae traean y plant eisoes dros eu pwysau wrth ddechrau yn yr ysgol gynradd ac mae pryder cynyddol y gallai'r cyfyngiadau coronafeirws wneud pethau'n waeth byth.

Mae fersiwn ddiweddaraf y rhaglen arloesol hon, a grëwyd gan dîm y brifysgol ac arbenigwyr lleol, yn dysgu plant sut i wneud amrywiaeth eang o symudiadau allweddol ym maes crefftau ymladd, dawns, pêl-droed a gymnasteg.

Mae Dynamic Dudes  wedi  ei lunio i gyd-fynd â rhaglen arobryn y brifysgol, Food Dudes, a ddatblygwyd yn y lle cyntaf gan y diweddar Athro Fergus Lowe, yr Athro Pauline Horne a'u tîm i alluogi plant i fwynhau bwyta ffrwythau a llysiau - mae 1.6 miliwn o blant ledled y byd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hyd yma.

 Mae gan fideos gweithgareddau newydd Dynamic Dudes naws ffres, ac maent yn cynnwys disgyblion ysgol a recriwtiwyd yn lleol. Mae'r Dynamic Dudes yn awr yn barod i ddod i'r adwy gyda'u hymarferion sgiliau sy'n addas i'r teulu ac yn addas i'w gwneud yn y tŷ.

Yr Athro Pauline Horne, o Ysgol Seicoleg y brifysgol, a greodd y cysyniad Dynamic Dudes ac mae wedi arwain gwaith y tîm o ddatblygu'r gyfres newydd, sydd ar gael trwy wefan newydd  

Meddai: “Roeddem eisoes yn wynebu epidemig gordewdra ymhlith plant, her iechyd cyhoeddus ledled y byd, ac er bod y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd argyfwng Covid-19 yn hanfodol, gallai cyfyngiadau symud am gyfnod hir arwain at blant yn gwneud llai fyth o ymarfer corff a bwyta hyd yn oed mwy o fwyd afiach.

“Mae Dynamic Dudes wirioneddol yn gweithio a phrofwyd ei fod yn bodloni'r targedau gweithgaredd dyddiol yn yr ysgol a argymhellir gan brif swyddogion meddygol y DU.

“Rydym yn gwybod bod 30 y cant o blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd eisoes dros eu pwysau ond mae'r ymchwil a wnaed gennym mewn ysgolion yng ngorllewin canolbarth Lloegr ac yng Nghymru yn dangos bod Dynamic Dudes yn cynyddu ffitrwydd a gweithgaredd dyddiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar faint eu canol.

“Roedd y plant yn gwisgo pedometr a ddangosodd bod eu gweithgaredd yn yr ysgol wedi cynyddu 800 cam y dydd ar gyfartaledd - tua'r un peth â mynd i redeg am hanner milltir. ”

Yn ogystal â chael ei dreialu gan ysgolion ledled y DU, cafodd Dynamic Dudes ei arddangos mewncynhadledd ryngwladol yn Zagreb yng Nghroatia yn 2017. 

Meddai Lauren Toal, Swyddog Cefnogi Projectau Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Bwyta a Gweithgaredd y brifysgol ac aelod hanfodol o dîm yr Athro Horne: “Rydym wedi creu'r gyfres Dynamic Dudes yn Gymraeg a Saesneg ac mae bellach ar gael am ddim ar y rhyngrwyd.

“Gwnaethom feddwl bod gennym yr adnodd newydd gwych hwn wedi ei lunio i'w ddefnyddio mewn dosbarth ysgol ond ar hyn o bryd mae teuluoedd yn gorfod treulio'r rhan fwyaf o'r diwrnod yn y tŷ, ac mae'n siŵr bod hynny'n anodd iawn i rieni ac yn rhwystredig i'w plant.

“Mae 36 o fideos cyflym a difyr wedi eu cynhyrchu gyda chymorth arbenigwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a hamdden, wedi eu recriwtio o'r brifysgol ac o'r gymuned leol, a'r syniad yw dysgu sgiliau symud hynod o cŵl  i blant ym maes dawns, crefftau ymladd, gymnasteg a phêl-droed sy'n heriol ond hefyd yn ddiogel i blant oed ysgol gynradd eu gwneud."

Mae'r fideos, sy'n cynnwys pobl ifanc o'r ardal leol yn bennaf, ar dair lefel, sef dechreuwyr, uwch a'r lefel uchaf un.

Maent yn cynnwys y Dynamic Dudes Razz, Rocco, Charlie a Tom yn dangos symudiadau o grefftau ymladd, gymnasteg, pêl-droed a dawns i roi pwl iach o weithgaredd i blant sydd hefyd yn bodloni canllawiau gweithgaredd dyddiol prif swyddogion meddygol y DU ar gyfer diwrnod ysgol.

Meddai'r Athro Horne: “Rydym wedi cael llawer iawn o help gan arbenigwyr eraill yn y brifysgol a'r gymuned leol , maent wedi bod yn rhyfeddol o hael gyda’u harbenigedd a’u hamser.

“Mae hyn yn arbennig o wir am y gwneuthurwr ffilmiau Mathew Owen, o Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, mae ei ffilmio gwych, ei effeithiau arbennig a'i sgiliau cynhyrchu fideo  wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y project.

“Mae Mathew yn ddwyieithog, yn hynod amyneddgar ac yn fedrus iawn wrth gymell perfformiadau rhagorol gan actorion ifanc.

“Mae ei sgiliau fel gwneuthurwr ffilmiau a’i allu yn y Gymraeg wedi bod yn amhrisiadwy trwy gydol y project tra bod Dr Laura Timmis hefyd wedi helpu i recriwtio plant, gan ddysgu symudiadau’r Dudes  iddynt, ac yn eu cefnogi trwy gydol y ffilmio.

“Dewiswyd y symudiadau gan arbenigwyr ac mae'r rhai a gyflwynir yn y fideos yn rhai y gellir eu perfformio mewn ystafell ddosbarth  felly maent hefyd yn ddelfrydol i blant berfformio yn eu cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Rydym yn arbennig o awyddus i roi cyfle i deuluoedd sy’n byw mewn fflatiau, sy'n siŵr o fod yn teimlo’n hynod o rwystredig ac ynysig ar hyn o bryd.”

Daeth Lauren, sydd â gradd Meistr mewn Seicoleg o Fangor ac sydd ar hyn o bryd yn astudio'n rhan-amser am ddoethuriaeth, i'r brifysgol o Newry, yng Ngogledd Iwerddon, ar ysgoloriaeth ac mae'n chwarae pêl-droed Gaeleg yn ogystal â phêl-droed i dîm merched lleol Bethesda.

Ychwanegodd: "Gellir gwylio'r fideos yn hawdd trwy'r wefan ar unrhyw adeg, felly gallwch eu gwylio gartref ar unrhyw ddyfais, yn cynnwys ffôn symudol, pan fydd yn gyfleus i chi.

"Amcan y fideos yw cynyddu ffitrwydd a hefyd dysgu sgiliau symud sylfaenol newydd i blant mewn nifer o wahanol weithgareddau chwaraeon a hamdden i'w hysbrydoli i fod yn egnïol yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

“Maent yn berffaith ar gyfer y sefyllfa bresennol oherwydd maent wedi eu llunio i gael eu perfformio mewn lle cyfyng mewn ystafell ddosbarth ond maent yr un mor hawdd eu gwneud yn y tŷ. Maent hefyd yn hwyl ac yn egnïol a gall mamau a thadau ymuno hefyd.”

Ymunwch yn yr hwyl fan hyn

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor