Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyflymder Sillafu Syfrdanol Disgyblion

Enillwyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn arddangos eu tlysau gyda'r Cynghorydd John Wyn Williams, Maer Bangor, a Hywel Williams, AS Arfon (chwith).Enillwyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn arddangos eu tlysau gyda'r Cynghorydd John Wyn Williams, Maer Bangor, a Hywel Williams, AS Arfon (chwith).Daeth dros 30 o ddisgyblion blwyddyn saith o un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru i Brifysgol Bangor  yn ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Spelling Bee Genedlaethol Cymru - Llwybrau at Ieithoedd, project cydweithredol rhwng pum prifysgol yng Nghymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a'r Cyngor Prydeinig i hyrwyddo dysgu iaith a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.

Bu disgyblion yn cystadlu yn erbyn y cloc i ennill teitl Pencampwr Spelling Bee 2019 a thlws gwydr mewn un o bedwar categori. Cefnogwyd cystadleuwyr gan athrawon, rhieni, a myfyrwyr sy'n hyrwyddwyr iaith yn adran ieithoedd a diwylliannau modern Prifysgol Bangor. Roedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eisoes wedi cystadlu mewn tair rownd flaenorol cyn cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol lle mae'n rhaid iddynt sillafu'n gywir gymaint o eiriau ag y gallant allan o gant posibl mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Gymraeg mewn chwedeg eiliad.

Gwnaeth pedair o'r pum ysgol yng ngogledd Cymru a oedd yn cymryd rhan, yng nghonsortiwm GwE, gyrraedd y rownd derfynol. Daeth Emma James o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn fuddugol yn y rownd derfynol sillafu Almaeneg. Roedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o ogledd Cymru yn cynnwys Joseph Greenall (St. Joseph's, Almaeneg), Alexandra Owen-Hatfield (Ysgol Alun, Almaeneg), Grace Powell (Ysgol Eirias, Almaeneg), Amelie Surridge (Ysgol Eirias, Ffrangeg), Safiya Wandji (St. Joseph's, Ffrangeg), a Chloe Jackson (Ysgol Rhiwabon, Ffrangeg).

Roedd Rachel Large, Pennaeth Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn llawn canmoliaeth o Spelling Bee a Llwybrau at Ieithoedd Cymru, gan ddweud, “Mae ein disgyblion sydd wedi cymryd rhan bob blwyddyn yn y Spelling Bee wedi cael yr hyder i roi cynnig ar ieithoedd ac maent wedi gweld pwysigrwydd ieithoedd yn y byd ehangach”.

Dywedodd Beverley Gordon, Pennaeth Ieithoedd yn Ysgol Eirias, “Er eu bod yn nerfus, gwnaeth ein disgyblion fwynhau'r profiad Spelling Bee a'u diwrnod ym Mhrifysgol Bangor yn fawr iawn. Roeddent i gyd yn teimlo bod dysgu geirfa ar gyfer y gystadleuaeth wedi gwella eu sgiliau iaith ac roedd cystadlu ar y diwrnod wedi rhoi hyder iddynt. Rydym yn falch iawn o'n 4 disgybl a'u holl waith caled ac wrth ein bodd bod disgyblion Eirias wedi dod yn 3ydd yn y Spelling Bees Ffrangeg ac Almaeneg - ffordd wych i'n helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ieithyddion!“.

Meddai Sylvie Gartau, Cydlynydd Dyfodol Byd-eang GwE, a Stephanie Ellis-Williams, Arweinydd Iaith Dyfodol Byd-eang GwE: “Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn! Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion blwyddyn 7 o bob cwr o Gymru ddangos eu brwdfrydedd tuag at ddysgu iaith. Maent i gyd yn llysgenhadon gwych! Diolch i Lwybrau Cymru a Phrifysgol Bangor am drefnu'r rownd derfynol yn y gogledd am y tro cyntaf.  Diolch i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran ac i'r athrawon am eu cefnogaeth!”.

Dywedodd Simon Clark, Pennaeth Ffrangeg yn Ysgol Alun: “Rwy'n bennaeth Ffrangeg yn Ysgol Alun a dyma'r tro cyntaf i ni gystadlu yn y digwyddiad. Cafodd Alexandra amser anhygoel ac rydym yn falch iawn ohoni. Gwnaeth yn well nag oedd hi'n ei ddisgwyl ac mae hyn wedi gwella ei sillafu a chynyddu ei hyder hefyd. Byddem wrth ein boddau yn cystadlu eto y flwyddyn nesaf!”

Dywedodd Dr Jonathan Ervine, Uwch Ddarlithydd Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, ac un o feirniaid y categori Ffrangeg: ““Roedd yn wych cael cynnal y Llwybrau Spelling Bee Cymru yma ym Mangor, a gweld brwdfrydedd a sgiliau'r disgyblion a oedd yn cystadlu. Roedd y safonau a gyrhaeddwyd ganddynt yn wirioneddol syfrdanol ac rwy'n gwybod eu bod wedi gadael argraff fawr ar lawer o bobl, gan gynnwys ein Haelod Seneddol lleol.”

Bu cynrychiolwyr o Goethe Institut, Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen, Institut Français, Dyfodol Byd-eang GwE, Europe Direct Wrecsam, Sw Môr Môn, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad trwy gyflwyno sgyrsiau i'r myfyrwyr, trefnu stondinau gwybodaeth neu feirniadu rowndiau o'r gystadleuaeth ar gyfer pob categori iaith. Trefnwyd y digwyddiad gan gydlynwyr y project, Rubén Chapela-Orri yn y gogledd, a Meleri Jenkins yn y de.

Roedd y gwesteion arbennig a oedd yn bresennol yn y rownd derfynol yn cynnwys y Cynghorydd John Wyn Williams (Maer Dinas Bangor) a Hywel Williams (AS Arfon), a ddywedodd, “Roedd yn ddigwyddiad gwych. Roedd y bobl ifanc yn wir yn ysbrydoli (ac yn gwneud i rywun sy'n ddwyieithog yn unig deimlo'n ostyngedig!)”.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor