Mae dysgu Ieithoedd Modern wedi bod yn rhan o gwricwlwm Prifysgol Bangor byth er 1884. Er bod llawer wedi newid ers hynny, wrth gwrs, mae ein gwaith wedi’i seilio ar y traddodiad cadarn a di-dor hwn, a’n nod yw paratoi ein myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer y byd cyfoes amlieithog sydd ohoni. Wedi’r cyfan, dim on 6% o boblogaeth y byd sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf!
O Awst 1af 2021, bydd Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth yn ymuno â strwythur academaidd newydd sef Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau.
ASTUDIO GYDA NI
Ewch i'n tudalennau Astudio i gael ein holl feysydd pwnc.
Ewch i'n tudalennau Astudio i gael ein holl feysydd pwnc.
Y newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Y newyddion a digwyddiadau diweddaraf
CYSYLLTWCH
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cyrsiau neu os hoffech drafod unrhyw fater, cysylltwch â ni:
EIN COLEG
Mae Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth yn rhan o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn dwyn ynghyd ystod o ddisgyblaethau academaidd cysylltiedig mewn chwe Ysgol Academaidd i gyflwyno cyrsiau ac ymchwil o'r ansawdd uchaf ac mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS), gan ddarparu cyrsiau iaith Saesneg a sgiliau astudio i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor.