Saran yn dathlu derbyn ei gradd yn y Gyfraith
Mae Saran Enfys Jones, 25, o Llanfair PG, Ynys Môn, wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda 2:1 yn y Gyfraith.
 
 
Saran Enfys JonesDywedodd Saran, sy’n gyn-fyfyriwr o Goleg Menai: "Mae graddio’n teimlo'n hollol anghredadwy! Cefais ddiagnosis o ganser yn 14 oed,  felly roeddwn wedi colli llawer o addysg, yn enwedig TGAU a Lefel A. O ganlyniad roeddwn yn ansicr ynghylch pa lwybr gyrfa i'w gymryd. Yn y pen draw, ar ôl nifer o flynyddoedd yn gweithio,  a chan fod fy nhad yn swyddog heddlu cyn ymddeol, roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa yn y gyfraith ac fe wnes gais i Fangor. Wrth i mi astudio fe wnes i sylweddoli fy mod yn hoffi delio gyda chyfraith contractau masnachol a chyfraith camwedd. Mae graddio gyda 2:1 yn gamp bersonol enfawr i mi, wedi i mi fynd trwy gymaint yn fy arddegau, ond rwyf yn colli’r Brifysgol yn barod.
 
 Ychwanegodd Saran: "Rwy'n lleol ond dewisais Fangor oherwydd fod gan y Brifysgol enw da iawn, yn enwedig Ysgol y Gyfraith, ac mae cyfleusterau gwych yma megis y llyfrgell a gwasanaethau TG. Hefyd  mae'r golygfeydd yn wych. Bangor yw un o fy hoff ddinasoedd yng Nghymru.
 
 "Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, roeddwn yn ymwneud â'r Project Innocence,  sef sefydliad polisi cyhoeddus sy'n ymroddedig i glirio enwau rhai a gafwyd yn euog o droseddau ar gam ac, yn y pen draw,   atal anghyfiawnder yn y system gyfreithiol gobeithio. Roeddwn hefyd yn hynod lwcus  i gael profiad gwaith gyda chwmnïau cyfreithiol lleol, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
 
 "Rwyf hefyd wedi ymwneud â Chymdeithas y Cyfreithwyr, sydd yn trefnu amryw o sgyrsiau a theithiau, gan gynnwys taith i Lundain lle cefais gyfle i weld y Senedd.
 
 "Mae uchafbwyntiau’r tair blynedd ddiwethaf yn cynnwys y daith i’r Senedd, y darlithoedd agored a gynhaliwyd gan Ysgol y Gyfraith ac yn olaf darganfod mai canlyniad fy ngradd oedd anrhydedd 2:1."
 
 Am y dyfodol, ychwanegodd Saran: "Mae gen i gynlluniau i wneud Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym mis Medi. Byddaf hefyd yn anelu at gael contract hyfforddi gyda chwmni masnachol mawr a dod yn gyfreithiwr masnachol. "
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013