Syr Bryn Terfel a Hannah Stone i berfformio yn Pontio, Bangor
Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV (Ebrill 1-7 2018) ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar nos Iau, Chwefror 8fed 2018, am 7.30pm.
Bydd Syr Bryn Terfel a’r delynores Hannah Stone yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o Gylch o Ganeuon Gwerin gan Osian Ellis. Yn perfformio hefyd bydd nifer o gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias a enillodd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel.
Bydd tocynnau yn £40 yr un ac ar werth o 10am ar 10/10/2017 o Swyddfa Docynnau Pontio ac arlein o www.pontio.co.uk.
Meddai Syr Bryn Terfel:
“Am gyffrous. Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi dod o hyd i ddyddiad ar gyfer y cyngerdd arbennig yma yn Pontio. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i berfformio yn y theatr am y tro cyntaf, mewn cyngerdd i ddathlu’r telynor Osian Ellis, un o gerddorion mwyaf eiconig Cymru.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017