Tryfan Williams, Swyddog Gwybodaeth Fusnes (Gwybodaeth y Farchnad)
Tryfan sy’n gyfrifol am ddatblygu swyddogaeth dadansoddi’r farchnad ar gyfer y Brifysgol i lywio datblygiad y cwricwlwm, gosod ffioedd dysgu yn seiliedig ar ymarfer meincnodi blynyddol, a chefnogi mentrau marchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol. Mae’n gweithio gyda chydweithwyr marchnata a recriwtio myfyrwyr allweddol ledled y Brifysgol i gynyddu ymgysylltiad a dealltwriaeth pawb o'r data sy'n ymwneud â marchnata a recriwtio myfyrwyr a chysylltiad hynny â phrosesau busnes allweddol, metrigau perfformiad, a blaenoriaethau strategol y Brifysgol. Mae hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno atebion o ran Gwybodaeth Fusnes ehangach y Brifysgol, ac yn cefnogi gwaith tîm strategaeth a chynllunio busnes y Brifysgol. Mae Tryfan yn aelod o'r Pwyllgor Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr.