Gwefru Cerbydau Trydan ar y Campws
Gellir gwefru cerbydau trydan yn y lleoliadau canlynol:
- Ffordd Ffriddoedd
- Porthaethwy
- Ffordd Deiniol
- Ffordd y Coleg
Mae mannau gwefru cerbydau trydan ar gael i ddefnyddwyr awdurdodedig meysydd parcio ar sail y cyntaf i'r felin - mae rheolau mynediad parcio arferol a ffioedd yn berthnasol.
SWARCO E.Connect yw’r darparwr dynodedig gwefru cerbydau trydan ym Mhrifysgol Bangor. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Evolt Network.
Sylwch na fydd ein tîm Desg Gymorth yn gallu cynorthwyo gydag ymholiadau gwefru cerbydau trydan. Gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â SWARCO E. Connect yn uniongyrchol ar rif eu llinell gymorth 02085158444, neu drwy eu gwefan.