Tiroedd, Tirlunio a Chynnal a Chadw Coetiroedd
Mae'r Adran Tiroedd a Gerddi'n gyfrifol am ofalu am diroedd cyffredinol y Brifysgol. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn eang ac mae'n adlewyrchu natur amrywiol ystâd y Brifysgol, sy'n cynnwys coed a choetiroedd yn ogystal â borderi addurnol a chadwraeth.
Weithiau mae'n amhosib ond ceisiwn beidio â defnyddio peiriannau a chyfarpar sy'n tarfu ar bobl sy'n astudio, yn gweithio neu'n cysgu. Er mwyn helpu rhaglennu tasgau a pheidio â tharfu ar neb, gofynnwn yn garedig i'r adrannau academaidd a'r gwasanaethau roi amserlen i ni sy'n nodi lleoliad ac amseriad unrhyw ddigwyddiadau, arholiadau neu bethau eraill lle bydd angen i'r peiriannau dewi.