Y Ddesg Gymorth
Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth yn gyntaf os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n gwasanaethau ni
I roi gwybod am namau sydd ddim yn rhai brys neu i wneud cais am ein gwasanaethau, cysylltwch â ni ar estyniad 2783, neu 01248 382783 os ydych chi'n galw o'r tu allan i'r Brifysgol, neu drwy e-bost.
Mae’r ddesg gymorth ar agor o 8.45 tan 17.00 o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Y tu allan i'r oriau hyn, a phan fydd y Brifysgol ar gau, mae'r Tîm Diogelwch yn gwneud gwaith y Ddesg Gymorth a bydd angen cysylltu â nhw dros y ffôn yn unig. Caiff y galwadau eu trosglwyddo'n syth atyn nhw.
Ar gyfer problemau sy'n faterion o frys gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad ag aelod o'r staff drwy ffonio estyniad 2783 (neu 01248 382783).
Mewn argyfwng ffoniwch 333 o unrhyw ffôn fewnol.
Pan ddaw galwadau neu negeseuon e-bost i law, mae eich ceisiadau'n cael eu cofnodi ar system Planon sy'n cynhyrchu'r gwaith ar gyfer ein timau.